Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Steve Devine

Rôl y swydd: Tiwtor Perfformio Allweddellau Hanesyddol

Adran: Piano

Gweld eu gwaith:

Bywgraffiad Byr

Mae Steven Devine yn mwynhau bywyd cerddorol prysur fel chwaraewr allweddellau ac arweinydd, gan weithio gyda rhai o'r cerddorion gorau.

Arbenigedd

Ef yw Prif Chwaraewr Allweddellau yr Orchestra of the Age of Enlightenment ac ef hefyd yw Cyfarwyddwr eu cyfres Cantata hynod boblogaidd “Bach, the Universe and Everything”. Yn ogystal, mae wedi arwain y gerddorfa ledled Ewrop ac Asia. Steven yw Cyfarwyddwr Cerdd New Chamber Opera yn Rhydychen a chyda nhw mae wedi perfformio repertoire o Cavalli i Rossini. Ar gyfer Gŵyl Opera Dartington mae wedi arwain Orlando gan Handel a Dido and Aeneas gan Purcell. Mae'n arweinydd ac yn Gynghorydd Artistig ar gyfer yr English Haydn Festival yn Bridgnorth.

Gan arbenigo ar harpsicord a phiano cynnar mae Steven yn chwarae ledled y byd fel unawdydd a chwaraewr continwo. Am nifer o flynyddoedd bu’n chwaraewr allweddellau gyda London Baroque gan deithio’r byd gyda nhw. Rhyddhaodd Steven recordiad CD o Lyfr 1 o Well-Tempered Clavier gan Bach (‘it’s the one of all I’ve heard in the past ten years that I am happiest to live with.’ Early Music Review) a rhyddhawyd Llyfr 2 yn 2020. Mae ei gatalog recordiadau’n cynnwys repertoire o Gerddoriaeth yr Oesoedd Canol i gyfansoddiadau newydd (mae nifer o gyfansoddwyr wedi creu gweithiau iddo).

Mae Steven yn gweithio’n rheolaidd gyda’r Norwegian Wind Ensemble, Trondheim Barokk, y Victoria Baroque Players (BC, Canada) ac Arion Baroque Ensemble (Montreal).

Mae’n Ymgynghorydd Allweddellau Cynnar i Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a’r Royal Birmingham Conservatoire.

Proffiliau staff eraill