Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Sarah Newbold

Rôl y swydd: Tiwtor Ffliwt

Adran: Chwythbrennau

Anrhydeddau: BA (Anrh), ARCM, LRAM, Addysgwr Andover Trwyddedig, Uwch Gymrawd HEA.

Bywgraffiad Byr

Mae Sarah yn aelod o Academi St. Martin-in-the-Fields a’r New London Orchestra ac yn flaenorol o Opera Cenedlaethol Cymru a’r London Philharmonic. Fel chwaraewr llawrydd, mae’n gweithio gyda’r rhan fwyaf o’r cerddorfeydd ym Mhrydain. A hithau’n gerddor siambr brwd, mae Sarah yn aelod o Cardiff Winds a’r Alvor Ensemble.

Arbenigedd

Fel ffliwtydd llawrydd, mae Sarah yn gweithio mewn amrywiaeth o arddulliau cerddorol, yn amrywio o gerddorfeydd opera, symffoni a siambr, cerddoriaeth a datganiadau siambr, i sesiynau ffilm a rhywfaint o waith offerynnau cyfnod. Mae’n rhoi dosbarthiadau meistr a datganiadau rheolaidd ym Mhrydain ac yn ddiweddar yn Norwy, Gwlad Groeg, y Ffindir, Iwerddon a Ffrainc.

Mae addysgu yn rhan bwysig o fywyd cerddorol Sarah; mae’n Athro’r ffliwt yn Ysgol Gerdd a Drama Guildhall ers 1989 a chyflwynodd weithdai yng nghynhadledd y Reflective Conservatoire yn y Barbican, Llundain, yn ogystal â seminarau datblygiad proffesiynol yn y Ffindir a Norwy.

Ers mis Medi 2010 bu Sarah yn diwtor Ffliwt yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Ynghyd â Zoe Smith, piano, mae’n gyfarwyddwr Llangenny Flute Summer School a gynhelir yn flynyddol ers 2008.

Mae Sarah yn hyfforddwr rheolaidd i National Youth Orchestra of Great Britain.

Astudiodd Sarah y ffliwt gydag Atarah Ben Tovim ac Alan Lockwood yn Huddersfield Polytechnic a chyda Peter Lloyd yn Ysgol Gerdd a Drama Guildhall. Cwblhaodd ei hastudiaethau yn y National Centre for Orchestral Studies.

Cyflawniadau Nodedig

Mae Sarah yn Addysgwr Andover Trwyddedig, yn addysgu celfyddyd symud mewn cerddoriaeth (Mapio’r Corff) ac mae’n Uwch Gymrawd yr Academi Addysg Uwch.

Proffiliau staff eraill