Kate Shipway
Cyd-destunau Galwedigaethol - Piano Bale
Rôl y swydd: Tiwtor Clarinét a Sacsoffon
Adran: Chwythbrennau
Anrhydeddau: GRNCM, PPRNCM
Mynychodd John Cooper y Royal Northern College of Music, gan astudio’r clarinét gyda Sydney Fell a’r sacsoffon gyda Neville Duckworth. Tra’r oedd yno, roedd yn rhan flaenllaw o gael yr RNCM i roi lle i’r sacsoffon ar y maes llafur, ac ef oedd y myfyriwr cyntaf i dderbyn Diploma Perfformio Proffesiynol ar yr offeryn.
Ar ôl gadael y coleg, bu John yn gweithio am ddwy flynedd yn yr Orquestra Sinfonica de Bilbao yng ngogledd Sbaen cyn dychwelyd i ogledd-orllewin Lloegr i ddilyn gyrfa lawrydd brysur ac amrywiol. Ar ôl dwy flynedd arall, cafodd ei benodi’n Is-Brif a Phrif Glarinetydd E fflat yng Ngherddorfa Symffoni Gymreig y BBC fel yr oedd bryd hynny. Yn ystod ei yrfa yng Ngherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, mae John wedi ymgymryd â phob sedd yn adran y frwynen unigol o’r sacsoffon tenor i’r clarinét cyntaf. Chwaraeodd yr holl repertoire symffonig i’r sacsoffon a’r clarinét E fflat lawer gwaith a daw â’i brofiad helaeth o chwarae cerddorfaol i’r coleg.
Mae John hefyd yn weithgar ym meysydd cerddoriaeth siambr a jazz.