Neidio i’r prif gynnwys

Roger Armstrong

Rôl y swydd: Tiwtor Ffliwt

Adran: Chwythbrennau

Anrhydeddau: BSc (Hons), DSCM, LMUSA

Bywgraffiad Byr

Ganed Roger Armstrong yng Ngogledd Iwerddon ond symudodd i Awstralia pan oedd yn ddeg oed. Dechreuodd chwarae’r ffliwt yn bymtheg oed, ac ar ôl graddio o'r Sydney Conservatoire of Music gydag anrhydedd dosbarth cyntaf, ymunodd â’r Western Australian Symphony Orchestra. Yn fuan ar ôl dychwelyd i Brydain penodwyd Roger yn Is-Brif Ffliwtydd gyda Cherddorfa Symffoni Gymreig y BBC (Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC erbyn hyn), swydd y bu ynddi am ddwy flynedd ar bymtheg. Ers gadael Cerddorfa Symffoni Gymreig y BBC mae Roger wedi dilyn gyrfa addysgu a pherfformio amrywiol. Fel Prif Ffliwtydd gyda’r Bristol Ensemble mae'n chwarae concertos, cerddoriaeth siambr a cherddoriaeth gyfoes yn ogystal â repertoire cerddorfaol.

Arbenigedd

Mae Roger wedi astudio seicoleg cerddoriaeth, seicoleg chwaraeon a seicoleg ysgogol, ac mae'n cymhwyso'r disgyblaethau hyn wrth addysgu ffliwt. Mae ei arddull addysgu yn gefnogol i ymreolaeth, ac mae llawer o hynny’n ddyledus i’w athro ei hun, Victor McMahon. Mae'n annog myfyrwyr i ddysgu trwy ymholi, archwilio, darganfod, arbrofi a hunanwerthuso.

Mae diddordebau cerddorol eraill Roger yn cynnwys cerddoriaeth ffliwt electro-acwstig, cerddoriaeth draddodiadol o bob cwr o'r byd, a chwarae pibgod Northumbria.

Proffiliau staff eraill