Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Roger Cutts

Rôl y swydd: Tiwtor Trombôn Tenor

Adran: Pres

Anrhydeddau: AGSM

Bywgraffiad

Dechreuodd Roger Cutts chwarae’r trombôn yn 8 oed, ym Mwrdeistref Barnet yn Llundain. Ymunodd â’r National Youth Orchestra ym 1986 gan fwynhau gweithio gyda Syr Mark Elder a Pierre Boulez. Astudiodd Roger yn Ysgol Gerdd Guildhall 1987-91 gyda Peter Gane, Dudley Bright, Eric Crees, a Simon Wills.

Arbenigedd

Ym 1992, penodwyd Roger yn Ail Drombonydd yr Hong Kong Philharmonic Orchestra, cyn symud i fod yn Brif Drombonydd ym 1995. Ym 1996, penodwyd Roger yn Brif Drombonydd Adran gan Opera Cenedlaethol Cymru, pan ddechreuodd weithio hefyd fel tiwtor trombôn yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Mae Roger wedi dysgu yn y Royal Northern College of Music, Trinity Laban, Royal Birmingham Conservatoire, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Maastricht Conservatoire, a’r Hong Kong Academy for the Performing Arts.

Cyflawniadau Nodedig

Chwaraeodd Roger yn Brif Drombonydd Gwadd gyda’r London Symphony Orchestra, y Royal Scottish National Orchestra, y Philharmonia Orchestra, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, yr Halle, y Royal Opera House, English National Opera, BBC Symphony Orchestra, City of Birmingham Symphony Orchestra a’r Royal Philharmonic Orchestra.

Proffiliau staff eraill