Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Alan Swain

Rôl y swydd: Tiwtor Trombôn Bas

Adran: Pres

Anrhydeddau: LGSM, BMus (Anrh) GSMD

Bywgraffiad Byr

Astudiodd Alan yn Chetham School of Music a’r Guildhall School of Music & Drama. Bellach mae Alan yn perfformio, addysgu a chwarae'r Trombôn Bas gydag Opera Cenedlaethol Cymru.

Arbenigedd

Cyn ymuno ag Opera Cenedlaethol Cymru, roedd Alan yn Brif Drombonydd Bas gyda cherddorfeydd yn yr Almaen a De Affrica. Mae hefyd wedi chwarae mewn sioeau gan gynnwys Copacabana, Evita, Scrooge ac Oliver!, gyda bandiau mawr gan gynnwys Glenn Miller Orchestra, yn ogystal â gwneud gwaith teledu, radio, pop a sesiwn.

Mae Alan yn falch o fod yn ymwneud â Michael Rath Trombones ac o gael ei gefnogi ganddynt.

Proffiliau staff eraill