Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Dean Wright

Rôl y swydd: Tiwtor Trymped

Adran: Pres

Anrhydeddau: GMus RNCM (Anrh), PPRNCM.

Bywgraffiad Byr

Yn enedigol o Swydd Gaerhirfryn, ymunodd Dean â Banks Brass Band fel chwaraewr cornet ifanc. Yn ddiweddarach, ymunodd â’r Leyland DAF Band ac wedyn daeth yn Brif Chwaraewr Cornet gyda Besses o’th Barn Band. Symudodd i Sellers Engineering Band o dan Philip McCann a chwaraeodd i’r byd-enwog James Shepherd Versatile Brass tra’r oedd yn astudio gyda Murray Grieg yn y Royal Northern College of Music.

Yn ystod ei astudiaethau ôl-raddedig yn Ysgol Gerdd Guildhall, anrhydedd iddo oedd cael ei benodi’n Brif Chwaraewr Trymped gyda Cherddorfa Ieuenctid y Gymuned Ewropeaidd (EUYO bellach), gan deithio ledled De America a Dwyrain Ewrop rhwng 1994 a 1996, ynghyd â gweddill Ewrop a Phrydain.

Arbenigedd

Ym 1997, daeth Dean yn Brif Drympedwr gyda Cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru, swydd y mae’n ei dal hyd heddiw. Bu Dean ar staff Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ers 2005. Mae Dean yn mwynhau ei rôl fel Athro oherwydd yr amgylchedd cyfeillgar, cefnogol a chreadigol sydd yn CBCDC.

Proffiliau staff eraill