Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Robert Samuel

Rôl y swydd: Tiwtor Trymped

Adran: Pres

Anrhydeddau: BMus, LRAM, ARAM

Bywgraffiad Byr

Cyflwynwyd Robert Samuel i offerynnau pres yn wreiddiol pan ddechreuodd chwarae’r cornet gyda band pres Gwauncaegurwen yn wyth oed. Symudodd ymlaen yn gyflym i Fand Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, a threuliodd flynyddoedd lawer yn chwarae gyda Band Cory a Desford Colliery Band. Uchafbwynt cynnar enfawr i Robert oedd bod yn brif chwaraewr gwadd i’r Black Dyke Mills Band o dan ei athro, y diweddar James Watson.

Arbenigedd

Astudiodd Robert y trymped yn yr Academi Gerdd Frenhinol rhwng 1994 a 1998 o dan James Watson, a oedd yn gyfaill a mentor arbennig. Tra yn yr Academi bu'n aelod o Gerddorfa Ieuenctid yr Undeb Ewropeaidd, a theithiodd yn helaeth ledled y byd gyda’r gerddorfa. Fe’i gwnaed yn Gydymaith yr Academi Gerdd Frenhinol yn 2010.

Penodwyd Robert yn ail drympedwr gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn 2002 ac mae’n parhau ag amserlen chwarae brysur iawn yn rhyngwladol gyda nhw. Yn broffesiynol mae Robert wedi gweithio gyda llawer o gerddorfeydd, gan gynnwys y Philharmonia Orchestra, Halle Symphony Orchestra, Opera Cenedlaethol Cymru, London Mozart Players, a Cherddorfa Ffilharmonig Bergen.

Dechreuodd Robert addysgu trymped yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn 2017, ac mae annog chwaraewyr y dyfodol yn parhau i fod yn angerdd iddo.

Proffiliau staff eraill