Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Sean O'Neill

Rôl y swydd: Tiwtor Tiwba

Adran: Pres

Anrhydeddau: ARCM

Arbenigedd

Roedd Sean O'Neill yn Brif Chwaraewr Tiwba gyda Cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru am gyfnod o 25 mlynedd ac ef oedd y chwaraewr tiwba cyntaf i integreiddio'r 'Cimbasso' yn llwyddiannus i gerddorfeydd y DU.

Yn dilyn y cyfnod hwn, dilynodd Sean yrfa lawrydd lwyddiannus yn gweithio ledled y Deyrnas Unedig gyda llawer o brif gerddorfeydd y wlad cyn ymgymryd â swydd addysgu amser llawn gyda Cherddoriaeth Gwent yn 2006 ac wedi hynny symud ymlaen i fod yn Bennaeth yr Adrannau Chwyth a Phres.

Drwy gydol ei yrfa chwarae broffesiynol, mae Sean wedi datblygu gyrfa gyfochrog mewn addysg cerddoriaeth ac wedi ymgymryd â swyddi addysgu yn Wells Cathedral School, Ysgol Trefynwy, Prifysgol Caerdydd yn ogystal â Choleg Iau Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a’r Prif Goleg.

Bu’n diwtor gwadd i Gerddorfa Ieuenctid Genedlaethol Prydain Fawr ac arweinydd gwadd Cerddorfa Chwyth Genedlaethol Ieuenctid Cymru, ac mae wedi cyfarwyddo Cerddorfeydd Chwyth Ieuenctid Sirol Cymru i berfformio mewn gwyliau cerdd blaenllaw yn Carnegie Hall, Efrog Newydd ar dri achlysur, a hynny ddwywaith yn cynnwys perfformiadau cyntaf y byd gyda'r meistr ar yr ewffoniwm, David Childs.

Ar hyn o bryd mae Sean yn parhau â’i yrfa fel tiwtor tiwba yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Ymgynghorydd Cerddoriaeth llawrydd, Addysgwr a Chyfarwyddwr Ensemble.

Proffiliau staff eraill