Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Paul Jones

Rôl y swydd: Tiwtor Piano, Jazz

Adran: Jazz

Bywgraffiad Byr

Pianydd, trefnydd, cyfansoddwr a cherddor o Benclawdd yng Ngŵyr yw Paul Jones.

Arbenigedd

Ar hyn o bryd mae'n recordio ac yn perfformio (gyda Stephen Black) fel Group Listening, deuawd clarinét a phiano. Rhyddhawyd eu halbwm cyntaf, Clarinet & Piano: Selected Works Vol.1 ar PRAH Recordings, ac arweiniodd hynny at ymddangosiadau helaeth ar deithiau ac mewn gwyliau. Yn ddiweddar, bu’r ddeuawd yn cydweithio â Cate Le Bon, gan ail-ddychmygu darnau o’i halbwm Reward a enwebwyd am Wobr Mercury i greu’r EP Here It Comes Again (Mexican Summer/Rough Trade). Maent hefyd wedi ailgymysgu traciau ar gyfer yr artist indi amgen o America, Lambchop, fel sydd i’w clywed ar yr EP Basement Tapes (City Slang Records).

Perfformiodd gydag ystod eang o artistiaid Jazz gan gynnwys: Scott Hamilton, Keith Tippett, Pete King, Jason Yarde a Wycliffe Gordon. Ffurfiodd a chyd-arweiniodd y pedwarawd jazz o Gymru, The Jones O'Connor Group, gan dderbyn clod y beirniaid am eu dau albwm, a bu'n gyfansoddwr preswyl yng Ngŵyl Jazz Aberhonddu.

Yn fwy diweddar bu’n teithio ac yn recordio gydag artistiaid fel H. Hawkline, Charles Watson/Slow Club a Sweet Baboo.

Yn flaenorol cydweithiodd â Linder Sterling, Zervas & Pepper, Amampondo, a chyda Goldie Lookin' Chain, ar eu halbwm Greatest Hits a ddaeth yn rhif 5 yn siartiau’r DU.

Notable Achievements

Recent performance highlights include Le Guess Who Festival? (Utrecht, Netherlands), The Altitude Jazz Festival (Briançon, French Alps), and Sonic City Festival (Kortrijk, Belgium).

His writing, arranging and performances have been featured on BBC Radio Three, Four, BBC 6Music and others. His music has also been broadcast on Netflix (Easy, season three) and S4C.

Proffiliau staff eraill