Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

André Swanepoel

Rôl y swydd: Tiwtor Feiolin

Adran: Llinynnau

Anrhydeddau: MMus, Dip Koeln

Bywgraffiad Byr

Mae André Swanepoel, a anwyd yn Johannesburg, yn mwynhau gyrfa amrywiol fel cerddor siambr, athro a chwaraewr cerddorfaol.

Astudiodd André gydag Alan Solomon, Winfried Rademacher a Charles-André Linale; derbyniodd ddosbarthiadau meistr gan Christian Altenburger, a hyfforddiant preifat gan Eugene Fodor ac Ana Chumachenko.

Arbenigedd

Mae cerddoriaeth siambr yn rhan annatod o'i rôl fel Prif Ail Fiolinydd yr Irish Chamber Orchestra, ac yn y rôl hon mae wedi perfformio yng Ngŵyl Wanwyn Heidelberg a Gŵyl Mozart Würzburg, y Bozar ym Mrwsel, y Tonhalle yn Zurich, a’r Library of Congress yn Washington DC.

Mae uchafbwyntiau eraill o ran cerddoriaeth siambr yn cynnwys cyngherddau yng ngwyliau Ryedale, Dinas Llundain a Chichester. Perfformiodd yn Ne America ar gyfer Goethe Institut yr Almaen, ac mae wedi darlledu ar radio Gorllewin yr Almaen, Bafaria, Iwerddon a De Affrica.

Fel aelod o'r European Music Project, ymddangosodd mewn nifer o gyngherddau unnos thematig ledled yr Almaen. Mae ei recordiadau CD yn cynnwys recordiad byw o ddarn adnabyddus In C gan Terry Riley, gan ddenu clod y beirniaid. Fel unawdydd mae wedi ymddangos yn Ne Affrica, Iwerddon, yr Almaen a'r DU.

Bu’n flaenwr gwadd i Opera Cenedlaethol Cymru ac mae’n aml yn brif fiolinydd gwadd gyda’r Royal Northern Sinfonia, yr Hallé, a cherddorfeydd eraill y DU.

Proffiliau staff eraill