Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Liz Isaac

Rhagenwau

Hi/Ei


Rôl y swydd: Goruchwyliwr Cynhyrchu

Adran: Rheoli Llwyfan a Theatr Dechnegol

Anrhydeddau: Astudiaethau Drama a Theatr BA Anrhydedd Prifysgol Caerwysg, MA Rheoli Llwyfan a Digwyddiadau Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Bywgraffiad

Mae Liz wedi gweithio’n llawrydd fel rheolwr llwyfan a digwyddiadau ers 2008. Mae ei phrofiad eang yn cynnwys rolau fel Rheolwr Llwyfan Cwmni, Rheolwr Llwyfan ar gyfer Digwyddiadau Theatr, Rheolwr Llwyfan, Dirprwy Reolwr Llwyfan, Rheolwr Llwyfan Cynorthwyol a thechnegydd canhwyllau.

Mae wedi teithio’n helaeth ledled y DU ac wedi gweithio fel Rheolwr Llwyfan Cwmni yn y West End. At hynny, mae hi hefyd wedi gweithio’n helaeth yn Shakespeare’s Globe , a hynny ar draws Theatr y Globe a’r Sam Wanamaker Playhouse. Ar ôl gweithio fel goruchwyliwr llawrydd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, cafodd swydd Goruchwyliwr Cynhyrchu barhaol yn 2022.

Arbenigedd

Mae gan Liz brofiad helaeth ar draws theatrau a digwyddiadau byw, gan ganolbwyntio’n benodol ar reoli llwyfan mewn cynyrchiadau ar raddfa fawr ac ar safleoedd penodol.

Mae ei gyrfa’n cynnwys cydweithio ag artistiaid a chwmnïau blaenllaw, gan gefnogi cynyrchiadau yn y DU ac yn rhyngwladol. Mae ganddi sgiliau eang ar draws disgyblaethau rheoli llwyfan, yn cynnwys cynnig cymorth sy’n dechrau yn yr ystafell ymarfer ac yn parhau hyd at berfformiadau ac amgylcheddau teithiol.

Llwyddiannau nodedig

Mae Liz wedi gweithio gyda’r Fonesig Eileen Atkins ar Ellen Terry with Eileen Atkins, a gyda Syr Mark Rylance arShakespeare Within the Abbey yn Abaty Westminster.

Bu Liz yn Rhelowr Llwyfan ar Emilia yn Shakespeare’s Globe, yn Ddirprwy Reolwr Llwyfan ar  I Think We Are Alone gyda Frantic Assembly, ac yn Rheolwr Llwyfan Cwmni ar 2:22 A Ghost Story yn Theatr Criterion, Llundain.

Mae Liz hefyd wedi gweithio’n helaeth yn Theatr Shakespeare’s Globe mewn amrywiaeth eang o rolau rheoli llwyfan, a hynny yn Theatr y Globe a’r Sam Wanamaker Playhouse.

Proffiliau staff eraill