Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Emily White

Rôl y swydd: Tiwtor Trombôn Tenor a  Modgorn

Adran: Pres

Anrhydeddau: BMus MMus LRAM ARAM PGDip 

Gweld eu gwaith:

Bywgraffiad

Astudiodd Emily y trombôn gydag Alan Hutt yn Wells Cathedral School, ac wedyn aeth ymlaen i astudio’r trombôn a’r fiolín yn yr Academi Gerdd Frenhinol, Ysgol Gerdd a Drama Guildhall a Trinity Laban. 

Mae’n mwynhau cerddoriaeth gyfoes a chynnar ac yn gweithio yn y ddau faes. Recordiodd ddisg A Cry Was Heard gyda label recordiau Deux-Elles yn 2022 a oedd yn cynnwys cerddoriaeth newydd a hen i’r modgorn gyda’i grŵp Sackbut Frenzy. 

Mae’n aelod o’r English Cornett & Sackbut Ensemble (ECSE), ac mae eu 14 o ddisgiau yn cynnwys dau enillydd Gwobr Gramophone, Diapason D’Or a disg y mis ar Classic FM. Mae ECSE yn ymddangos yn rheolaidd ar sioe fyw In Tune ar BBC Radio 3, a gwnaethant chwarae yn eu BBC Proms cyntaf yn 2012. Mae Emily yn aelod o Pandoras Box sydd wedi teithio fel triawd byrfyfyrio ledled Prydain ac Ewrop ac i’r Unol Daleithiau. Mae Emily yn chwarae yn yr ensemble Eidalaidd Il Giardino Armonico ac ymddangosodd ar y ddisg La Morte della Ragione, enillydd Diapason d'Or de l'Année 2019. Mae’n gweithio’n llawrydd gyda grwpiau fel Alte Musik Berlin, B Rock a Les Talens Lyrique. 

Mae Emily hefyd yn chwarae fiolín baróc, ar ôl astudio gyda Rachel Podger a Walter Reiter. Mae’n chwarae’r trombôn a’r fiolín gydag In Echo, mae’n ymddangos ar eu disg gyntaf lwyddiannus Music in a Cold Climate, a gwnaeth Rachel Stott ysgrifennu Scylla and Charibdis, a choncerto ar ei chyfer yn yr arddull ffantastig.  

Arbenigedd

Yn ogystal â Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, mae Emily hefyd yn athro’r modgorn a’r trombôn yn Ysgol Gerdd a Drama Guildhall a hi sy’n addysgu’r trombôn yn Wells Cathedral School. 

Cyflawniadau Nodedig

Mae’n artist cyswllt gyda Conn-Selmer ac mae ei halbwm fel unawdydd, A Cry Was Heard, yn cael ei ryddhau gyda label recordiau Deux-Elles ym mis Medi 2022.

Dolenni i ymchwil/prosiectau perthnasol

Proffiliau staff eraill