Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Patrick Connellan

Rôl y swydd: Darlithydd Gwadd mewn Dylunio ar gyfer Perfformio

Adran: Cynllunio

Bywgraffiad Byr

Mae Patrick Connellan yn Ddylunydd Setiau a Gwisgoedd llawrydd sy’n seiliedig yng Nghymru. Gan ddylunio ar gyfer pob ffurf ar theatr a pherfformio byw, mae wedi gweithio ledled y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol, gan gynnwys yn The Birmingham Rep, RSC, Gielgud Theatre; National Theatre; Theatre Royal, Northampton; Everyman, Lerpwl; New Vic, Stoke; Truck Theatre, Hull; Belgrade, Coventry; West Yorkshire Playhouse; Derby Theatre/Playhouse; New Wolsey; Octagon, Bolton; Holland Park Theatre, ac yn ddiweddar, y Perm yn Rwsia.

Fel darlithydd gwadd i’r Coleg, mae Patrick yn addysgu Dylunio ar gyfer Perfformio i fyfyrwyr BA ac MA ac yn rhoi dosbarthiadau meistr mewn Ymarfer Dylunio Theatr.

Arbenigedd

Mae ganddo ddiddordeb penodol yn maes theatr ddogfen neu air am air, gan gyfuno hyn â phypedwaith yn y blynyddoedd diwethaf. Fel Cyfarwyddwr Artistig, sefydlodd gwmni theatr Truth is Stranger than Fiction i hybu gwaith yn y cyfrwng hwn. Yn ogystal â’i ymarfer dylunio, mae Patrick hefyd yn gweithio fel Cyfarwyddwr, gyda’i gynhyrchiad o Popcorn yn yr Octagon Theatre yn Bolton, a aeth yn ei flaen wedyn i ennill Gwobr Manchester Evening News.

Cyflawniadau Nodedig

Yn flaenorol, enillodd Patrick Wobr Linbury am Ddylunio Llwyfan ac roedd yn aelod o’r tîm a enillodd Fedal Aur y Prague Quadrennial. Mae wedi arddangos yn helaeth yn arddangosfeydd cenedlaethol Cymdeithas Dylunwyr Theatr Prydain ac wedi cyflawni swyddi Pennaeth Dylunio yn y Belgrade Theatr yn Coventry ac Arweinydd Cwrs BA (Anrh) Dylunio Theatr yn Nottingham Trent University. Yn bresennol, mae’n aseswr ar gwrs Cyfarwyddo Theatr Birkbeck MFA, ac yn arholwr allanol ar gwrs MA Dylunio ar gyfer Perfformio yn Central Saint Martins.

Proffiliau staff eraill