Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Brett Robinson

Rôl y swydd: Hyfforddwr Eidaleg

Adran: Llais

Bywgraffiad Byr

Graddiodd Brett Robinson yn y Gyfraith, Eidaleg ac Almaeneg o Ysgol y Gyfraith Caerdydd, Università degli Studi di Pavia, Gogledd yr Eidal, yn ogystal â Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Mae hefyd ganddo BA mewn Ffrangeg a Sbaeneg ynghyd â graddau Ôl-raddedig mewn Astudiaethau Cyfieithu a Llais.

Arbenigedd

Ag yntau’n amlieithydd balch, ieithoedd yw gwir angerdd Brett mewn bywyd. Bu’n gweithio yn CBCDC ers 2014, yn addysgu Eidaleg i fyfyrwyr llais ar raglenni gradd Israddedig ac Ôl-raddedig.

Mae Brett hefyd wedi gweithio fel cynhyrchydd a chyfieithydd i’r BBC ac mae’n mwynhau cydweithio’n rheolaidd â chystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd fel hyfforddwr iaith a dehonglydd.

Fel canwr, mae wedi gweithio gyda llawer o brif gwmnïau’r DU, gan gynnwys Opera Cenedlaethol Cymru, Opera North, Garsington Opera a Grange Park Opera. Mae gan Brett ddiddordeb arbennig hefyd mewn cyfieithu cydweithredol ar gyfer canu ac mae'n cynllunio ei ddoethuriaeth ar 'Translaboration' ac Opera.

Fel athro, mae’n mwynhau gweithio gyda phob math o lais ac yn arbennig yr her o gyflwyno myfyrwyr newydd i’r Eidaleg. Mae'n frwd dros bwysigrwydd ieithoedd yn y coleg a'r rhan ganolog sydd ganddynt yn natblygiad canwr.

Proffiliau staff eraill