Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Donald Maxwell

Rôl y swydd: Athro y Llais, Tiwtor Opera

Adran: Llais

Anrhydeddau: MA (Edin), DMus (Anrh), FWRCMD, FLeedsCM

Bywgraffiad Byr

Yn wreiddiol o Perth yn yr Alban, graddiodd Donald mewn daearyddiaeth a bu’n addysgu yn yr Alban tra’n astudio canu gyda Joseph Hislop. Ymunodd a Scottish Opera ym 1976 ac Opera Cenedlaethol Cymru ym 1982. Roedd yn Gyfarwyddwr y Stiwdio Opera Genedlaethol o 2001 i 2008 a Phennaeth Astudiaethau Opera CBCDC o 2004 i 2009.

Arbenigedd

Mae ei repertoire operatig, sy’n cynnwys ymhell dros gant o rolau, yn amrywio o’r Baróc i sawl perfformiad cyntaf erioed, gan gynnwys gweithiau gan Berio, Eotvos, Manoury a Holt. Mae ei rolau nodedig yn cynnwys y prif rannau yn Falstaff, Rigoletto, Flying Dutchman, Don Pasquale, Sweeney Todd a Wozzeck, yn ogystal â Golaud, Bottom ac Iago. Ac yntau’n arbenigwr penodol mewn opereta, mae wedi perfformio gyda’r holl brif gwmnïau opera ym Mhrydain a thramor yn The Met, La Scala, Teatro Colon Buenos Aires, Staatsoper Fienna, Gŵyl y Pasg Salzburg, Chicago Lyric Opera, Opera Paris a’r Theatre du Chatelet.

Mae Donald wedi cyfarwyddo sawl opera gan gynnwys The Rape of Lucretia a Bear gan Walton ar gyfer Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, La Gazetta a Patience ar gyfer y Coleg Cerdd Brenhinol, ynghyd â Pimpinone a The Beautiful Galatea ar gyfer Gŵyl Buxton. Mae cyngherddau perfformio yn benodol yn cynnwys Carmina Burana, y mae wedi’i recordio ddwywaith, yn ogystal â darllediad teledu byw o’r Prom gyda Richard Hickox.

Cyflawniadau Nodedig

Mae Donald wedi recordio’n helaeth. Cyn gyfarwyddwr y Stiwdio Opera Genedlaethol a chyn Bennaeth Astudiaethau Opera yn CBCDC. Yn ogystal â dosbarthiadau meistr a beirniadu, mae wedi arwain sawl ysgol haf yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Proffiliau staff eraill