Stephen Wood
Repetiteur, Hyfforddwr Lleisiol, Tiwtor Opera, Cyd-Destunau Galwedigaethol
Rôl y swydd: Hyfforddwr Llais, Tiwtor Opera
Adran: Llais
David Doidge yw Meistr y Corws yn Opera Cenedlaethol Cymru.
Yn Opera Cenedlaethol Cymru, mae David wedi gweithio ar lawer o gynyrchiadau gydag arweinwyr sy’n flaenllaw yn rhyngwladol fel Carlo Rizzi, Lothar Köenigs, Tomáš Hanus, Ainars Rubikis ac Andriy Yurkevich.
Ac yntau’n artist rheolaidd yng Nghymru, mae ei ymddangosiadau yn y Deyrnas Unedig yn cynnwys yn Wigmore Hall, Royal Albert Hall, Royal Festival Hall, St Martin in-the-Fields, Leeds Lieder Festival, a Gŵyl Ryngwladol Caeredin.
Dramor, mae wedi ymddangos yn Los Angeles, Oman, Abu Dhabi, Ischia a’r Iseldiroedd. Mae ei bartneriaid mewn cyngherddau a datganiadau’n cynnwys Syr Bryn Terfel, Rebecca Evans, Nuccia Focile, Gwyn Hughes Jones, Lesley Garrett, Alfie Boe a Trystan Llyr Griffiths.
Mae David yn hyfforddwr llais ac arweinydd cynorthwyol i Gelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru ac mae hefyd yn hyfforddwr gwadd i’r Ysgol Opera a’r Adran Llais yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd.
Mae David wedi bod yn rhan o lawer o recordiadau a darllediadau byw ar gyfer BBC Radio 3, Classic FM a BBC Radio Wales, yn ogystal ag ymddangosiadau teledu gyda Syr Bryn Terfel, Katherine Jenkins, a Connie Fisher ar gyfer rhwydwaith y BBC.