Brad Caleb Lee
Darlithydd Gwadd mewn Dylunio
Rôl y swydd: Ymgynghorydd Piano Ymweliadol
Adran: Piano
Mae Charles Owen yn mwynhau gyrfa ryngwladol helaeth yn perfformio repertoire eang gan ddenu clod rhyfeddol gan y beirniaid. Mae’n ymddangos yn llawer o brif leoliadau’r Deyrnas Unedig gan gynnwys Wigmore Hall, Bridgewater Hall, The Sage a Kings Place. Yn rhyngwladol, perfformiodd yn y Lincoln Center a Carnegie Hall yn Efrog Newydd, Brahms Saal yn Musikverein yn Fienna, Musée d’Orsay ym Mharis, a’r Conservatoire ym Mosgo. Mae ei bartneriaid cerddoriaeth siambr yn cynnwys Julian Rachlin, Chloe Hanslip, Augustin Hadelich a Nicholas Daniel ynghyd â phedwarawdau Vertavo a Takacs.
Ac yntau’n berfformiwr gwadd rheolaidd mewn gwyliau fel Aldeburgh, Caerfaddon, Cheltenham, Leicester a Ryedale, mae hefyd wedi perfformio concertos gyda cherddorfeydd Philharmonia, Hallé, Aurora a London Philharmonic. Mae wedi mwynhau cydweithio â llawer o arweinyddion blaenllaw gan gynnwys Syr Mark Elder, Ryan Wigglesworth, Nicholas Collon a Martyn Brabbins.
Mae recordiadau Charles fel unawdydd yn cynnwys disgiau o gerddoriaeth piano gan JS Bach, Brahms, Janácek, Poulenc a Fauré. Mae ei recordiadau o gerddoriaeth siambr yn cynnwys sonatas i’r soddgrwth gan Rachmaninov a Chopin gyda Natalie Clein, bales piano Stravinsky a Chyfresi Rachmaninoff gyda Katya Apekisheva a’r perfformiad cyntaf erioed o Bumawd Piano Jonathan Dove gyda’r Sacconi Quartet.
Mae Charles Owen yn Athro’r Piano yn Guildhall School, Athro Gwadd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Cyd-Gyfarwyddwr Artistig y London Piano Festival, a chafodd ei benodi’n Llysgennad y Deyrnas Unedig Steinway & Sons yn 2016.