Roger Munnings
Aelod y Bwrdd
Rôl y swydd: Athro y Llais
Adran: Llais
Mae James Gilchrist wedi’i sefydlu ei hun yn ddehonglydd blaenllaw o Oratorio a Chân, yn arbennig y repertoire Almaenig a Saesnig. Dechreuodd fywyd fel canwr yn perfformio gydag rhai sy’n arbenigo ar berfformio cerddoriaeth gynharach mewn ffordd sydd wedi’i chyfarwyddo’n hanesyddol – grwpiau fel The Tallis Scholars, Sixteen, Cardinall’s Musick, Binchois Consort a The Clerks’ Group, ac mae ei ddiddordeb wedi parhau mewn cerddoriaeth hŷn, tra’n gweithio fel datgeiniad gyda chonsortiau fiolau, perfformio Lieder gyda phianos ar wahân i bianos cyngerdd, a gweithio gyda liwtwyr.
Mae’n gweithio llawer yn repertoire Baróc Bach a Handel, ac mae’n gweithio’n rheolaidd gydag arbenigwyr ym Mhrydain yn y maes hwn – Academy of Ancient Music, Orchestra of the Age of Enlightenment, Monteverdi Choir, Gabrilei Consort a Dunedin Consort. Daeth James yn adnabyddus fel efengylwr yn Passions Bach, ac mae wedi recordio’r ddau droeon. Ond yn repertoire caneuon y mae llawer o’i waith recordio, gan gynnwys Schubert a Schumann (gydag Orchid a Linn, yn eu trefn), Caneuon Seisnig (Britten, Berkeley, Finzi) a cherddoriaeth gyfoes (Hugh Wood, John Jeffreys).
Gweithio fel cerddor siambr yw cyfran fawr o’i yrfa erbyn hyn. Gweithiodd am dros 20 mlynedd gyda’r pianydd Anna Tilbrook, gan recordio a darlledu’n helaeth gyda hi. Fel athro, gweithiodd yn yr Academi Gerdd Frenhinol, Royal Scottish Academy, Royal Northern College of Music a’r Birmingham Conservatoire, cyn dod i Gaerdydd yn 2019.