Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Stephen Marsden

Rôl y swydd: Tiwtor Basŵn

Adran: Chwythbrennau

Anrhydeddau: ARCM

Bywgraffiad Byr

Yn enedigol o Bury, Swydd Gaerhirfryn, dechreuodd Steve Marsden astudio’r basŵn yn ddeg oed gyda Charles Cracknell, prif faswnydd yr Halle Orchestra, yn breifat i gychwyn ac wedyn fel myfyriwr yn Adran Iau y Royal Northern College of Music. Bwriodd ymlaen â’i astudiaethau fel disgybl yn Chetham`s School of Music ym Manceinion o 1981 hyd 1983 gyda David Chatwin, prif faswnydd y BBC Philharmonic, a hefyd gyda Martin Gatt, prif faswnydd y London Symphony Orchestra. Ym 1983, dyfarnwyd ysgoloriaeth iddo astudio yn Ysgol Gerdd a Drama Guildhall gyda Martin Gatt a Graham Sheen o’r BBC Symphony Orchestra.

Arbenigedd

O 1979 hyd 1983, roedd Steve yn aelod o Gerddorfa Ieuenctid Genedlaethol Prydain Fawr, ac yn brif faswnydd iddynt, ac o 1984 hyd 1985 roedd yn aelod o Gerddorfa Ieuenctid Ewrop. Ym 1985, roedd yn rownd derfynol ysgoloriaeth chwythbrennau Shell/London Symphony Orchestra, ac enillodd wobr gyda’r British Wind Quintet yn yr ARD Internationaler Musikwettbewerb yn Munich.

Tra’r oedd yn dal yn fyfyriwr israddedig yn Guildhall, penodwyd Steve yn Brif Faswnydd gydag Opera Cenedlaethol Cymru lle mae’n dal i weithio.

Fel athro, mae galw mawr amdano fel baswnydd a thiwtor. Mae’n gweithio gyda Cherddorfa Ieuenctid Genedlaethol Cymru, ymysg eraill, ac yn arwain llawer o ddosbarthiadau ac ymarferion y coleg. Mae hefyd wedi cyfarwyddo Ensemble Chwythbrennau’r coleg.

Cyflawniadau Nodedig

Mae Steve wedi chwarae fel prif faswnydd llawrydd gwadd gyda’r Royal Liverpool Philharmonic Orchestra, City of Birmingham Symphony Orchestra, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Royal Scottish National Orchestra, BBC Philharmonic, Royal Philharmonic Orchestra a’r Philharmonia Orchestra. Mae hefyd wedi perfformio fel unawdydd ar lawer o achlysuron mewn concertos gan Mozart, Weber, Hummel, Berwald, Vivaldi a Strauss.

Proffiliau staff eraill