Aled Miles
Aelod y Bwrdd
Rôl y swydd: Tiwtor Sacsoffon
Adran: Jazz
Mae Tori Freestone, y sacsoffonydd, ffliwtydd a’r cyfansoddwr sydd wedi ennill Gwobr Ivor Novello, wedi perfformio gyda chwaraewyr o fri rhyngwladol o fyd jazz, gwerin a cherddoriaeth byd gan gynnwys y cyfansoddwr ac aml-offerynnwr byd enwog o Frasil Hermeto Pascoal, Ingrid a Christine Jensen, Cleo Laine/Dankworth Band, Huw Warren, Yazz Ahmed (yn ymddangos ar ei halbwm Polyhymnia), Pumawd ac Wythawd Ivo Neame yn gweithio ochr yn ochr â cherddorion sy’n gynnwys Angelica Sanchez (Efrog Newydd), Iain Ballamy, Stan Sulzman, Jasper Hoiby, Jami Cullum, Andy Sheppard a Jason Yarde. Ar hyn o bryd mae hi hefyd yn chwarae gyda llawer o ensembles mawr gan gynnwys Cerddorfa Jazz Nikki Iles, Cerddorfa Jazz Julian Siegel, Wythawd Zoe Rahman ac mae yn sedd sacsoffon tenor 1 yng Ngherddorfa Jazz Llundain.
Fel arweinydd band mae wedi ymddangos mewn clybiau a gwyliau jazz ledled y byd gan gynnwys Ciwba, Reykjavik, yr Almaen, yr Eidal, Awstria a Sbaen gyda recordiadau/cyfweliadau ar gyfer Jazz FM, Radio 3, Radio 2, Radio Bremen (Yr Almaen), ORF (Radio Cenedlaethol Awstria) a Jazz Canarias (Sbaen).
Enillodd Wobr Ivor Novello am gyfansoddi ar gyfer ensemble Jazz yn 2022 am drac ar albwm deuawd a gafodd ganmoliaeth y beirniaid yn 2023 gyda’r pianydd Alcyona Mick ac roedd ei gwaith triawd a ryddhawyd yn ddiweddar yn ‘Albwm Jazz y Mis’ yn y Guardian 2019. Mae comisiynau’n cynnwys Gŵyl Jazz EFG London 2014 a berfformiwyd yn y QEH yn cefnogi Henry Texier a chyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Sefydliad y Celfyddydau am Gyfansoddi Jazz yn 2017 a Gwobr Jazz Seneddol ar gyfer Offerynnwr Jazz y Flwyddyn 2017 ynghyd â chyllid gan PRS a chronfa Transmission, Do it Differently a Record and Release Help Musicians yn 2020.
“Mae Freestone yn amlwg wedi gwrando’n helaeth, ond mae ei gallu cerddorol a’i phrofiadau eang wedi cymysgu’r holl fewnbwn hwnnw yn sain hynod wreiddiol", John Fordham, adolygiad 4* yn The Guardian
“Rydw i wir yn ei hoffi; mae hi mor organig… Mae’n swnio’n hamddenol iawn, ond mae ganddi ddawn arbennig i chwarae’r sacsoffon tenor... fydda’i byth yn blino gwrando ", erthygl ‘Artist Choice’ Ingrid Jensen yn Jazz Times, UDA