Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Geoff Moore

Rôl y swydd: Ymchwil ac Astudiaethau Cyd-destunol

Adran: Cynllunio

Bywgraffiad Byr

Astudiodd Geoff Moore Gelfyddyd Gain yng Ngholegau Celf Newcastle a Leeds cyn dechrau yn y theatr yn y Traverse gwreiddiol yng Nghaeredin. Gwnaeth ddarnau coreograffig ar gyfer Ballet Rambert a’r London School of Contemporary Dance cyn sefydlu Moving Being i archwilio gwaith mewn disgyblaethau cymysg. Roedd y Cwmni’n cyfuno actorion, dawnswyr, cerddorion a gwneuthurwyr ffilm, a chaiff ei gydnabod am arloesi yn y defnydd o dechnoleg yn y theatr.

Arbenigedd

Gan symud i Gymru, roedd y Cwmni wedi’i leoli yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter am ddeng mlynedd cyn sefydlu eu canolfan eu hunain yng Ngofod Theatr St Stephens yn y Dociau yng Nghaerdydd, gan redeg hwnnw am ddegawd arall. Dyfarnwyd Cymrodoriaeth Churchill i Geoff Moore i deithio ac astudio yn UDA, a Moving Being oedd y cwmni cyntaf o Gymru i berfformio yn y National Theatre. Mae hefyd wedi cyfarwyddo drama deledu i HTV a BBC Cymru. Yn CBCDC, mae Geoff Moore yn darlithio Hanes Celf, Hanes y Theatr, a’r Ddelwedd Symudol, gan ymgorffori dawns a sinema.

Cyflawniadau Nodedig

Yn 2018 enillodd PhD o Brifysgol De Cymru.

Proffiliau staff eraill