Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Steve Blandford

Rôl y swydd: Mentor MA: Portffolio Ymarfer Perfformio

Adran: Cynllunio

Bywgraffiad Byr

Yn ogystal ag addysgu ar gyrsiau mewn Dylunio ac Actio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, mae Steve Blandford hefyd yn Athro Emeritws Theatr, Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol De Cymru. Mae’n Athro Gwadd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol Caer-wynt.

Arbenigedd

Mae wedi cyhoeddi'n eang ar theatr, ffilm a theledu Prydain gan gynnwys, yn fwyaf diweddar, Theatre and Performance in Small Nations (Intellect, 2012) 'Jimmy McGovern' (Gwasg Prifysgol Manceinion, 2013) a chyfraniadau i'r casgliadau golygiedig, 'The War on Terror' Post-9/11 Television Drama (2015) a Cops on the Box, Contemporary British Crime Drama (2017).

Yn 2012, arweiniodd dîm a gynhyrchodd adroddiad ar gyfer Ymddiriedolaeth y BBC yn dwyn y teitl 'Screening the Nation', am yr effaith ar Gymru wrth gynhyrchu Doctor Who a dramâu teledu cysylltiedig yng Nghaerdydd. Mae Steve yn ddramodydd cyhoeddedig ac wedi cyfarwyddo ar gyfer y theatr.

Roedd yn un o ymddiriedolwr sylfaenol National Theatre Wales ac roedd ar fwrdd Zoom, Gŵyl Ryngwladol Ffilm Pobl Ifanc. Mae'n ymddiriedolwr Canolfan Gelfyddydau Chapter ac yn cadeirio eu Pwyllgor Rhaglennu Artistig a Dysgu. Tan 2013, ef oedd Cyfarwyddwr Canolfan Astudio'r Cyfryngau a Diwylliant mewn Cenhedloedd Bach ac mae'n parhau i fod yn aelod o’u grŵp llywio.

Proffiliau staff eraill