Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Daz James

Rôl y swydd: Uwch Ddarlithydd mewn Llwyfan a Chynhyrchu, Arweinydd Cwrs MA Rheoli Llwyfan a Digwyddiadau

Adran: Rheoli Llwyfan a Theatr Dechnegol

Anrhydeddau: BA (Anrh), PGCE

Bywgraffiad Byr

Graddiodd Daz James ei hun o’r Coleg a bu’n gweithio ym maes Theatr, Teledu a Digwyddiadau ym mhob rhan o Gymru a thu hwnt. Yn gyntaf fel Rheolwr Llwyfan ac wedyn fel Rheolwr Cynhyrchu, mae Daz wedi gweithio gyda’r rhan fwyaf o’r cwmnïau theatr a’r lleoliadau graddfa fach a chanolig ledled Cymru, gan deithio yn y Deyrnas Unedig a chynhyrchu gwaith yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Arbenigedd

Yn 2000, daeth Daz yn aelod o’r adran Rheoli Llwyfan yn y Coleg, yn gyfrifol am addysgu rheoli llwyfan technegol a llwyfannu. Fel rhan o’r adran gynhyrchu, mae Daz bellach yn goruchwylio cynyrchiadau drama’r Coleg ac mae’n gynrychiolydd iechyd a diogelwch i’r adran. Y mae hefyd yn gyfrifol am reoli Venue 13, lleoliad y Coleg yng Ngŵyl Ffrinj Caeredin, lle mae’r myfyrwyr yn gweithio gyda chwmnïau theatr o bedwar ban byd.

Y tu allan i’r Coleg, arferai Daz fod ar Fwrdd Cyfarwyddwyr Theatr Genedlaethol Cymru. Roedd hefyd yn ymwneud â Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru am dros ugain mlynedd, yn gyntaf fel Rheolwr Llwyfan y Cwmni ac wedyn fel Rheolwr Cynhyrchu. Yn broffesiynol, mae Daz yn parhau i weithio’n llawrydd fel Rheolwr Llwyfan a Chynhyrchu ac fel Rigiwr.

Cyflawniadau Nodedig

Yn ogystal â’i rôl yn y Coleg, ac yntau wedi cwblhau tymhorau fel yr Arholwr Allanol ar gyrsiau technegol yn y Royal Academy of Dramatic Arts (RADA), Royal Conservatoire of Scotland (RCS) ac Ysgol Gerdd a Drama Guildhall, Llundain, mae Daz ar hyn o bryd yn ymgymryd â’r un rôl yn Lir National Academy of Dramatic Art yng Ngholeg y Drindod, Dulyn.

Cewch glywed mwy gan Daz am y cyrsiau mae’n eu haddysgu

Proffiliau staff eraill