Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Caradog Williams

Rôl y swydd: Hyfforddwr Lleisiol, Tiwtor Opera

Adran: Llais

Bywgraffiad Byr

Mae Caradog Williams yn gyfeilydd a hyfforddwr llais llawrydd sy’n seiliedig yng Nghaerdydd. Yn dilyn gradd mewn Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Rhydychen, astudiodd Gyfeiliant Piano yn y Coleg Cerdd Brenhinol o dan Roger Vignoles a John Blakely, lle’r oedd yn Ysgolor y Bwrdd Cysylltiedig.

Arbenigedd

Mae gwaith Caradog yng Nghaerdydd wedi cynnwys bod yn repetiteur i Opera Cenedlaethol Cymru, Academi Llais Ryngwladol Cymru a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Mae ganddo brofiad helaeth o weithio gydag athrawon canu, hyfforddwyr iaith ac arweinwyr opera; mae'r rhain wedi cynnwys y Fonesig Kiri Te Kanawa, Richard Bonynge, Carlo Rizzi, John Fisher, David Syrus a llawer mwy.

Ar lwyfan cyngherddau, mae uchafbwyntiau diweddar yn cynnwys datganiadau gyda Syr Bryn Terfel yn Cheltenham, Bergen ac Oslo; mae Caradog hefyd wedi cydweithio â Gwyn Hughes Jones, Rebecca Evans, Elin Manahan Thomas a Syr Willard White.

Proffiliau staff eraill