Nia Lynn
Tiwtor Llais
Rôl y swydd: Tiwtor Bas Dwbl
Adran: Llinynnau
Anrhydeddau: BMus (Anrh) RAM
Graddiodd David gyda gradd BMus (Anrh) dosbarth cyntaf o’r Academi Gerdd Frenhinol yn 2011, gan astudio gyda Graham Mitchell a Duncan McTier.
Bu David yn Brif Chwaraewr Dwbl Bas Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ers 2013 a bu’n brif chwaraewr gwadd i’r rhan fwyaf o’r cerddorfeydd symffoni a’r cerddorfeydd siambr yn y DU, gan gynnwys y Philharmonia Orchestra, Royal Philharmonic Orchestra, y BBC Symphony Orchestra a’r John Wilson Orchestra. Mae David hefyd yn Brif Chwaraewr Dwbl Bas Cyswllt Academy of St Martin in the Fields, swydd y mae wedi’i dal ers Ionawr 2017.
Fel chwaraewr siambr, mae David wedi ymddangos mewn llawer o wyliau, gan gynnwys Gwyliau Cerddoriaeth Siambr Penarth, Dartington a Corbridge.
Mae David yn cynnal dosbarthiadau meistr yn rheolaidd ledled y DU, ac yn hyfforddi Cerddorfa Genedlaethol Plant a Cherddorfa Genedlaethol Ieuenctid Prydain Fawr.
Daeth David yn Gydymaith yr Academi Gerdd Frenhinol yn 2018.