Malcom Martineau
Hyfforddwr Gwadd
Rôl y swydd: Tiwtor Piano Cydweithredol a Hyfforddwr Llais
Adran: Piano
Darllenodd Simon gerddoriaeth yng Ngholeg y Brenin, Caergrawnt, ac astudiodd y piano yn yr Academi Gerdd Frenhinol. Ar hyn o bryd mae’n athro Piano Cydweithredol ac yn cydlynu’r cwrs piano cydweithredol yn y Coleg Cerdd Brenhinol. Mae’n gyfeilydd swyddogol ar gyfer Cystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd.
Mae ei uchafbwyntiau fel perfformiwr yn cynnwys ei gyfres ei hun yn Wigmore Hall ar ganeuon Joseph Marx; datganiadau mewn lleoliadau yn cynnwys Carnegie Hall, Concertgebouw a’r Mozarteum yn ogystal â gwyliau yn cynnwys Caeredin, Ravinia a Verbier. Mae’n perfformio gyda chantorion o’r Deyrnas Unedig ac Ewrop gan gynnwys Benjamin Appl, Ilker Aracayürek, Karen Cargill, Stéphane Degout, Christiane Karg, Sally Matthews, Mark Padmore, Christoper Purves, Nicky Spence a Lawrence Zazzo. Y mae i’w glywed yn rheolaidd hefyd ar BBC Radio 3 ac mae’n aml yn perfformio gyda’r genhedlaeth iau o gantorion gan gynnwys Soraya Mafi, Julien Van Mellaerts a Kitty Whately.
Mae ei recordiadau lleisiol yn cynnwys dwy ddisg o ddatganiadau gyda Stéphane Degout, disg o ddatganiadau gyda’r Fonesig Dame Felicity Palmer, caneuon Mahler gyda Karen Cargill, caneuon Jonathan Dove gyda Kitty Whately, caneuon C.W. Orr gyda Mark Stone a dwy ddisg Schubert gydag Ilker Arcayürek. Dyfarnwyd Diapason D’or i’w recordiad o weithiau cyfoes gyda’r fiolinydd Carolin Widmann. Enwyd y ddisg Poémes d’un jour gyda Stéphane Degout yn albwm clasurol newydd gorau’r mis ar gyfer cylchgrawn Gramophone.