Niamh Pragnell-Toal
Is-lywydd, Lles
Rôl y swydd: Tiwtor Trombôn Bas
Adran: Pres
Dechreuodd Darren ar ei yrfa yn The Band of The Grenadier Guards yn un ar bymtheg oed. Ar ôl treulio pedair blynedd ar ddeg yn y Fyddin, astudiodd Darren y Trombôn Bas o dan Bob Hughes yn yr Academi Gerdd Frenhinol yn 2003. Cyn ymuno â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC fel Prif Drombonydd Bas yn 2012, roedd gan Darren yrfa lawrydd helaeth. Am dair blynedd ef oedd trombonydd bas y Syd Lawrence Orchestra.
Mae Darren wedi chwarae mewn llawer o gynyrchiadau theatr gerdd yn y West End yn Llundain gan gynnwys Phantom of the Opera, Lion King, Lord of the Rings a The Sound of Music. Gwnaeth Darren fwynhau bod yn Chwaraewr Trombôn / Trombôn Bas yng ngherddorfa’r pwll ar gyfer sioe gerdd Wicked. Mae Darren hefyd wedi chwarae mewn nifer o brif gerddorfeydd symffoni’r wlad, gan gynnwys The London Philharmonic Orchestra, The Philharmonia Orchestra, Royal Philharmonic Orchestra a The Royal Opera House, Covent Garden ymhlith eraill.
Mae hefyd i’w glywed yn chwarae’r trombôn bas a’r trombôn bas contra ar sawl trac sain Hollywood gan gynnwys Batman, The Dark Knight, Inception, Black Swan, Ironman 2, Sherlock Holmes, Monsters vs Aliens, Kung Fu Panda, Alice through the Looking Glass a Kingsman: The Golden Circle.