Kate Stokes Davies
Cyfarwyddwr Materion Allanol
Rôl y swydd: Tiwtor Trombôn Tenor
Adran: Pres
Anrhydeddau: BA (Anrh), MM.
Donal Bannister yw’r prif drombonydd gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Yn ogystal ag addysgu trombôn yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, mae hefyd yn addysgu trymped bas ac ewffoniwm cerddorfaol, gwneud trefniannau i offerynnau pres a hyfforddi cerddoriaeth siambr. O Ddulyn y daw Donal yn wreiddiol, a derbyniodd ei addysg gerddorol yn y Royal Irish Academy of Music, Coleg y Drindod Dulyn (lle’r oedd yn ysgolor), ac Eastman School of Music, Efrog Newydd (lle’r oedd yn ysgolor Fulbright). Tra’r oedd yng Ngholeg y Drindod Dulyn, ymchwiliodd i symffonïau ‘Sturm und Drang’ Haydn.
Yn flaenorol yn ei yrfa, roedd yn aelod o Bournemouth Symphony Orchestra ac mae’n gyn-brif drombonydd yr Irish Youth Orchestra. Yn ychwanegol at ei waith i Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, mae ganddo yrfa lawrydd brysur yn ymddangos fel trombonydd gwadd gyda’r rhan fwyaf o brif gerddorfeydd y Deyrnas Unedig, gan gynnwys London Symphony Orchestra, Philharmonia Orchestra, Scottish Chamber Orchestra ac eraill.
Mae diddordebau cerddorol Donal yn eang; yn ogystal â gwaith cerddorfaol, mae ganddo angerdd at ddatblygiad offerynnau, gan berfformio’n aml ar offerynnau cyfnod, a threuliodd lawer o amser yn arwain cerddorfeydd a band pres cymunedol. Mae Donal hefyd wedi cyhoeddi trefniannau o gerddoriaeth i offerynnau pres.