Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Ella Hawkins

Rôl y swydd: Uwch-ddarlithydd Ymchwil ac Arloesedd (Drama)

Adran: Drama

Bywgraffiad

Ysgolor Shakespeare, hanesydd cynllunio ac artist yw Ella Hawkins. Cwblhaodd ei gradd gyntaf mewn Astudiaethau Theatr a Pherfformio ym Mhrifysgol Warwick, ac yna astudiodd am raddau MA a PhD yn Sefydliad Shakespeare, Prifysgol Birmingham. Mae diddordebau ymchwil Ella bob amser wedi canolbwyntio ar Shakespeare mewn perfformiad, gan ehangu yn ystod y blynyddoedd diwethaf i gynnwys cynllunio gwisgoedd, hanes gwisg, diwylliant defnyddiau a theatr gerddorol.

Mae Ella’n rhannu ei diddordeb mewn cynllunio drwy gydweithio â sefydliadau celfyddydol a threftadaeth, a thrwy greu celf bwytadwy wedi’i ysbrydoli gan decstilau, gwrthrychau a gwisgoedd hanesyddol. Mae wedi gweithio gydag Amgueddfa Victoria & Albert, Ymddiriedolaeth Shakespeare Birthplace, Royal Shakespeare Company a Dash Arts ar brosiectau amrywiol yn ymwneud â Shakespeare a hanes y theatr. Mae gwaith ymgysylltu â’r cyhoedd Ella ym maes cynllunio bisgedi wedi denu sylw’r cyfryngau ledled y byd, gan gynnwys The Washington Post, National Public Radio, ABC Radio Melbourne, y BBC, a chylchgrawn Smithsonian.

Arbenigedd

Mae gwaith ymchwil Ella yn archwilio sut mae syniadau’n cael eu cyfleu drwy elfennau gweledol perfformiad a diwylliant. Mae ei thraethawd ymchwil, sydd â’r teitl Shakespeare in Elizabethan Costume: ‘Period Dress’ in Twenty-First-Century Performance (Bloomsbury, 2022), yn archwilio sut y caiff dillad modern cynnar eu hailgylchu a’u hail-ddychmygu wrth gynllunio gwisgoedd cyfoes ar gyfer Shakespeare. Mae’r llyfr yn dadadeiladu’r syniadau, y tybiaethau, a’r dyheadau sy’n clystyru pan feddylir am ddillad y cyfnod modern cynnar, ac yn dangos sut mae’r cysylltiadau hyn wedi cael eu trin gan ymarferwyr theatr i lywio ystyron dramâu Shakespeare.

E-bostiwch Ella

Gallwch gysylltu ag Ella drwy e-bostio ella.hawkins@rwcmd.ac.uk

Proffiliau staff eraill