Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Brian Weir

Rôl y swydd: Cyfarwyddwr Gweinyddiaeth Academaidd a Phrofiad Myfyrwyr

Mae Brian Weir, Cyfarwyddwr Gweinyddiaeth Academaidd a Phrofiad Myfyrwyr, yn gyn-fyfyriwr israddedig (Corn Ffrengig) ac ôl-raddedig (Arwain Cerddorfaol) Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Ar ôl blwyddyn yn gwasanaethu fel Llywydd Undeb y Myfyrwyr (1999-2000), fe’i penodwyd i swydd oedd newydd ei chreu, sef Rheolwr Gwasanaethau Myfyrwyr. Heddiw, mae rôl Brian yn cwmpasu pob elfen o daith y myfyriwr - o recriwtio a mynediad i weinyddiaeth ganolog, diogelu a gwasanaethau myfyrwyr, cymorth adnoddau dysgwyr, llais myfyrwyr a gwaith achos, sicrhau ansawdd a gwella a dilysu cwricwlwm.

Yn aelod o’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth, Brian yw cadeirydd Pwyllgor Sicrhau Ansawdd y Coleg a goruchwyliodd yn llwyddiannus adolygiad o CBCDC gan MusiQuE (Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Cymdeithas Conservatoires Ewrop) yn 2021. Mae’n aelod bwrdd profiadol sydd wedi gwasanaethu’n flaenorol ar fyrddau y Gerddorfa Plant Genedlaethol a Cherddoriaeth mewn Ysbytai. Ar hyn o bryd mae’n Ymddiriedolwr Ymddiriedolaeth Arts Active ac yn Gadeirydd Llywodraethwyr ei ysgol gynradd leol.

Proffiliau staff eraill