Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Benjamin Talbott

Rôl y swydd: Tiwtor Cyfansoddi gyda Thechnoleg Cerddoriaeth Greadigol

Adran: Cyfansoddi a Thechnoleg Cerddoriaeth Greadigol

Anrhydeddau: BMus

Bywgraffiad Byr

Cyfansoddwr a chynhyrchydd cerddoriaeth ar gyfer ffilm a theledu yw Benjie yn bennaf, er bod ei wreiddiau mewn cerddoriaeth ar gyfer theatr ynghyd â bod yn aelod o wahanol fandiau. Mae ei waith cyfredol yn cynnwys ysgrifennu ar gyfer cynyrchiadau ffilm, teledu a theatr, er ei fod hefyd yn arbenigwr mewn creu pecynnau sampl EDM. Y tu hwnt i fentrau masnachol cyfredol mae hefyd yn offerynnwr medrus, nofelydd, canwr, dawnsiwr, crëwr gemau bwrdd amatur a garddwr brwdfrydig.

Arbenigedd

Trwy ei waith cynhyrchu cerddoriaeth, mae Benjie yn arbenigwr ar greu seinweddau deinamig sy'n gwbl gerddorfaol a chorawl wedi'u creu ag offerynnau rhithwir, gan dwyllo'r glust i feddwl bod cerddorfa go iawn wedi'i recordio. Arbenigedd arall y mae wedi’i feistroli yw integreiddio offerynnau rhithwir a real ynghyd i greu bydoedd sain unigol sy'n galw am drin deunyddiau'n fanwl gan ddefnyddio technegau recordio a chymysgu soffistigedig yn ogystal â rhoi sylw i ganfod y deunydd gwreiddiol cywir, gan gynnwys synau wedi’u darganfod a synthesis pur.

Cyflawniadau Nodedig

Mae gweithiau a chyweithiau nodedig yn cynnwys ffilmiau: Amber (2017), Steel Country (2017), Galesa (2015) [enillydd Sgôr Gwreiddiol Gorau BAFTA Cymru 2017], Mom & Me (2015); prosiectau teledu: Craith (2017), Y Gwyll / Hinterland (2013-17), Andrew Marr’s Great Scots (2014); theatr: Coriolan/us (2012); a dawns fodern: Shadow of a Quiet Society (2015).

Proffiliau staff eraill