Catherine Roe-Williams
Hyfforddwr Llais
Mynychodd Lara James y Royal Northern College of Music ym Manceinion lle enillodd radd mewn cerddoriaeth a Diploma Perfformio Proffesiynol. Astudiodd am gyfnod gyda'r sacsoffonydd, yr athro a'r hanesydd enwog Dr. Paul Cohen yn y Manhattan School of Music. Dychwelodd wedyn i'r DU i gwblhau gradd Meistr mewn Cerddoleg o Brifysgol Manceinion, a'i phwnc arbenigol ar gyfer y thesis oedd The Sacsophone in Britain, c.1860-1960. Ar ôl gorffen cymhwyster addysgu a hyfforddi PGCE/PCET y sector ôl-16 o Brifysgol Greenwich, rhoddodd Lara saib ar ei hastudiaethau er mwyn magu teulu.
Yn ddiweddar, mae wedi ailddechrau ar ei gwaith ymchwil academaidd drwy astudio ar gyfer ei PhD.
Fel sacsoffonydd sy’n seiliedig yn y DU, mae Lara yn adnabyddus am ei gwaith fel cerddor, addysgwr, ymchwilydd ac awdur. Sefydlodd ei hun fel cerddor gyda gyrfa bortffolio brysur ac amrywiol yn amrywio o ddatganiadau, cerddoriaeth siambr, ymddangosiadau cerddorfaol a pherfformiadau band i ddarlithio. Mae Lara wedi dal swydd addysgu sacsoffon yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ers 2003, gan addysgu, hyfforddi, asesu a beirniadu ar draws y conservatoires iau ac uwch.
Mae ei gwaith perfformio yn y gorffennol wedi rhychwantu amrywiaeth o genres, gan gynnwys gwaith fel unawdydd concerto, sesiynau ar gyfer recordiadau radio, teledu a CD, yn cynnwys ymddangosiadau niferus gyda rhai o brif gerddorfeydd y DU. Fel unawdydd mae gwaith Lara wedi’i ddarlledu ledled y byd gan gynnwys yn y DU (BBC Radio 3, Classic FM), Iwerddon (RTE Lyric FM), UDA (NPR) ac Awstralia (ABC Classic FM).
Mae Lara hefyd yn hyfforddi dosbarthiadau perfformio a cherddoriaeth siambr ac yn rhoi darlithoedd ar sail ymgynghorol. Mae’n rhan o garfan ysgrifennu academaidd gydweithredol, ac mae galw amdani fel beirniad ar gyfer cystadlaethau cerddoriaeth ieuenctid cenedlaethol, arholiadau a chlyweliadau coleg, yn ogystal ag fel hyfforddwr/ymgynghorydd ar gyfer sefydliadau cerddoriaeth ieuenctid cenedlaethol. Ei diddordebau eraill yw mentora ar gyfer Pwyllgor Cydraddoldeb Rhwng y Rhywiau y North American Saxophone Alliance, ffotograffiaeth cerddoriaeth, ac ymarfer seicoleg a lles i gerddorion a phobl greadigol.
Façades - CD cyntaf Lara ar label Signum Classics - oedd Dewis y Cyflwynydd ar gyfer Cerddoriaeth Offerynnol a Siambr yn Classic FM Magazine, 2009. Roedd yn ddiolchgar am gymorth Cyngor Celfyddydau Cymru tuag at recordio ail CD yn 2011; prosiect amrywiol ei arddull dan y teitl The Glittering Plain, yn cynnwys cydweithrediadau artistig newydd cyffrous a chomisiynau gan gyfansoddwyr Prydeinig, a oedd hefyd wedi’i rhyddhau ar label Signum. Mae ei recordiadau diweddaraf wedi bod mewn cydweithrediad â’r technolegydd cerdd / cyfansoddwr cerdd Dr. Leah Kardos, a ryddhaodd ei halbwm Rococochet yn 2017 gyda Bigo & Twigetti. Ar hyn o bryd mae Leah a Lara yn gweithio ar brosiect sain sy'n canolbwyntio ar bwnc seicoddaearyddiaeth a diogelwch menywod, a chynorthwywyd y gwaith o gwmpasu’r prosiect gan y Rhaglen Partneriaeth ac Ymgysylltu ym Mhrifysgol De Cymru, ac mae’r prosiect ei hun wedi'i gymeradwyo gan elusen Cymorth i Ddioddefwyr yn y DU.