Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Martin Gwilym-Jones

Rôl y swydd: Tiwtor Feiolin

Adran: Llinynnau

Bywgraffiad Byr

Mae Martin Gwilym-Jones wedi perfformio fel unawdydd, cerddor siambr a cherddor cerddorfaol ledled Ewrop, Gogledd a De America, Asia ac Awstralia mewn neuaddau yn amrywio o’r Carnegie i’r neuadd bentref leol. Mae’r rhain yn cynnwys ymddangosiadau ar deledu a radio ac mewn gwyliau fel Bowdoin, Pablo Casals, Consonances, Keshet Eilon a Prussia Cove Open Chamber Music. Ym maes Cerddoriaeth Siambr, mae wedi cydweithio â llawer o gerddorion gan gynnwys Philippe Graffin, Matt Haimowitz, Ernst Kovacic, a’r pianydd Jason Ridgway fel rhan o bartneriaeth ddeuawd reolaidd. Mae ymddangosiadau diweddar mewn concertos yn cynnwys Vivaldi gyda’r Britten Sinfonia ac yn Lachrymae gan Britten ar gyfer prosiect gyda Richard Alston Dance Company.

Arbenigedd

Astudiodd Martin yn Chetham’s School of Music, Royal College of Music a Jacob’s School of Music ym Mhrifysgol Indiana lle dyfarnwyd Diploma Artist iddo. Derbyniodd ysgoloriaethau i'r sefydliadau hyn a’i brif athrawon yno oedd Maeve Broderick, Itzhak Rashkovsky a Miriam Fried. Mae Martin wedi ennill gwobrau gan y Royal College of Music, Ymddiriedolaeth Syr James Caird, English Speaking Union, Cyngor Celfyddydau Cymru, Sefydliad Jerwood a Chystadleuaeth Cerddoriaeth Siambr Ryngwladol Entrecasteaux.

Yn ddiweddar, symudodd Martin i Gaerdydd i ymgymryd â swydd y prif fiolinydd cyntaf gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Mae’n mwynhau cymysgedd amrywiol o waith fel aelod o Britten Sinfonia ac Orchester Revolutionnaire et Romantique John Eliot Gardiner. Bu’n flaenwr gwadd i Gerddorfa English National Opera a Cherddorfa Symffoni Trondheim, yn ogystal â bod yn brif fiolinydd gwadd gyda BBC Symphony Orchestra, Halle, Royal Liverpool Philharmonic a Scottish Chamber Orchestra.

Proffiliau staff eraill