Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Anne Mason

Rôl y swydd: Athrawes y Llais, Tiwtor Opera

Adran: Llais

Anrhydeddau: LRAM, ARAM, FRAM

Bywgraffiad Byr

Astudiodd Anne Mason yn yr Academi Gerdd Frenhinol a’r Stiwdio Opera Gendlaethol.

Ymddangosodd am y tro cyntaf gyda’r Royal Opera yn canu Emilia yn Otello ac aeth ymlaen i berfformio sawl rôl iddynt gan gynnwys Annio La Clemenza di Tito. Mae wedi canu amryw rolau gyda’r English National Opera, Opera Cenedlaethol Cymru, Scottish Opera, English Touring Opera, Glyndebourne Festival Opera, Teatro Real Madrid, Liceu Barcelona, Opera’r Iseldiroedd, Gŵyl Aix-en Provence, Dresden Semperoper, Opera de Lille, Opera Du Rhin, De Vlaamse Opera, Opera Dijon, a Gŵyl Aldeburgh.

Arbenigedd

Mae’r rolau y mae Anne wedi’u creu yn cynnwys Dynes Minsk yn Flight for Glyndebourne a Duges Efrog yn Richard 111 (Batistelli) ar gyfer Vlaamse Opéra. Y Fam yn Metamorphose, Michael Levinas, ar gyfer Opera de Lille.

Ers mentro i’r repertoire mwy dramatig, derbyniodd glod nodedig am ei phortreadau ‘deifiol’ o Kostelnicka yn Jenufa, Fricka yn The Ring Cycle, ac Azucena yn Il Trovatore. Yn fwy diweddar, canodd Mrs De Rocher yn Dead Man Walking ar gyfer Opera Cenedlaethol Cymru mewn cydweithrediad â Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Mae gan Anne repertoire cyngherddau a datganiadau eang ac mae wedi gweithio gydag LPO, LSO, Halle, Orchestre Picardie o dan yr arweinyddion adnabyddus Syr Colin Davis, Bernard Haitink, Arie von Beek, Syr John Eliot Gardiner, ymhlith llawer mwy.

Mae ei recordiadau’n cynnwys Marcellina yn Le Nozze di Figaro (Haitink/EMI), Azucena yn Il Trovatore, (Parry/Chandos), Emilia di Liverpool (Chandos), Amadigi di Gaula gan Handel i’r BBC.

Mae gan Anne angerdd am addysgu’r genhedlaeth newydd o gantorion. Mae’n credu mewn hyfforddi lleisiau yn seiliedig ar egwyddorion Bel Canto, sef harddwch tôn a rhyddid y llais a’r corff. Mae llawer o’i myfyrwyr bellach yn canu mewn tai opera adnabyddus fel y Royal Opera, Opera Cenedlaethol Lloegr, Opera Cenedlaethol Cymru, Opera Holland Park a Glyndebourne.

Cyflawniadau Nodedig

Gwnaed Anne yn gymrawd yr Academi Gerdd Frenhinol.

Proffiliau staff eraill