Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Pierre-Maurice Barlier

Rôl y swydd: Hyfforddwr Ffrangeg

Adran: Llais

Anrhydeddau: BMus (Anrh), LGSSMD, TAR

Bywgraffiad Byr

Athro canu a hyfforddwr Ffrangeg yw Pierre-Maurice Barlier. Astudiodd Pierre-Maurice (bariton) yng Nghonservatoire Metz (Ffrainc) ac yng Nghonservatoire Lwcsembwrg gydag Ionel Pantea cyn symud i Lundain i astudio yn y Guildhall School of Music and Drama.

Arbenigedd

Mae'n gweithio ar draws amrywiaeth o sefydliadau addysgol a pherfformio gan gynnwys addysgu a hyfforddi yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Academi Llais Ryngwladol Cymru a Phrifysgol Caerdydd. Mae wedi hyfforddi repertoire Ffrangeg ar gyfer Opera Cenedlaethol Cymru, Opera North, Grange Festival a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC. Mae Pierre-Maurice yn cydweithio'n rheolaidd â chantorion ar gyfer recordiadau, gan gynnwys y baritonau Mark Stone a Simon Wallfisch.

Proffiliau staff eraill