Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Suzanne Murphy

Rôl y swydd: Athrawes y Llais, Tiwtor Opera

Adran: Llais

Anrhydeddau: Hon D Litt (Limerick), Doethuriaeth er Anrhydedd (Morgannwg), FRWCMD

Bywgraffiad Byr

Ganwyd Suzanne Murphy yn Iwerddon a dechreuodd ar ei hastudiaethau clasurol gyda’r athro canu adnabyddus, Dr. Veronica Dunne, yn hydref 1973 yn y Coleg Cerddoriaeth, Dulyn, yn dilyn gyrfa amrywiol ym maes cerddoriaeth werin a theatr.

Ym 1974, a hithau’n dal i fod yn fyfyriwr, cafodd y cyfle i astudio a chanu rhan La Cenerentola gan Rossini ar gyfer Irish National Opera a theithiodd Iwerddon gyda’r cynhyrchiad hwn. Yn dilyn hyn, perfformiodd ran Elisetta yn Secret Marriage gan Cimarosa.

Arbenigedd

Ar ôl astudio, ymunodd Suzanne ag Opera Cenedlaethol Cymru ym 1976 fel prif soprano, gan ymddangos am y tro cyntaf fel Konstanze yn Il Seraglio gan Mozart, a chanodd gerddoriaeth o’r opera hon yn y ffilm Amadeus a enillodd Wobr Academy.

Mae wedi perfformio gydag Opera Cenedlaethol Cymru, English National Opera, Opera North, Scottish Opera, Royal Opera House Covent Garden, Wien, Berlin a Bayerische State Opera, Cologne, Frankfurt, Paris, Brwsel a Sao Paolo; ac yng ngogledd America, mae wedi perfformio yn Efrog Newydd, Pittsburgh, Washington, Minneapolis a Vancouver.

Yn gynharach yn ei gyrfa, arbenigodd yn repertoire Bel Canto Bellini a Donizetti, gan symud ymlaen i operâu mwy dramatig Verdi, Puccini, Tchaikovsky, Janacek a Wagner.

Cyflawniadau Nodedig

Mae ei recordiadau’n cwmpasu gweithiau cyfansoddwyr mor amrywiol â Mozart, Rachmaninoff, Tchaikovsky, Puccini, Verdi, Ariâu o Opereta a Sioeau Cerdd a Chaneuon Gwyddelig.

Yn 2001, ymunodd Suzanne â chyfadran addysgu Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd a’r Royal Irish Academy of Music yn Nulyn.

Mae ei chyflawniadau ym myd cerddoriaeth wedi’u cydnabod drwy Gymrodoriaethau er Anrhydedd o Brifysgol Caerdydd a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a Doethuriaethau er Anrhydedd o Brifysgol Morgannwg (1999) a phrifysgol ei thref enedigol, Limerick (2000).

Proffiliau staff eraill