Lenny Sayers
Tiwtor Clarinét / Clarinét Bas
Rôl y swydd: Hyfforddwr Llais, Tiwtor Dawn Gerddorol Allweddellau a Darllen wrth Weld
Adran: Piano
Anrhydeddau: BA, LWCMD, LTCL
Graddiodd Sharon o Brifysgol Cymru gan barhau â’i hastudiaethau ym Mhrifysgol Keele, Guildhall School of Music and Drama a’r National Opera Studio.
Yn ystod ei gyrfa fel repetiteur operatig, bu ganddi gysylltiadau hir â Glyndebourne, Opera Cenedlaethol Cymru ac Opera North gan weithio gydag arweinwyr o fri gan gynnwys Syr Bernard Haitink, Syr Charles Mackerras a Carlo Rizzi.
Fel cyfeilydd, mae Sharon wedi perfformio gyda llawer o artistiaid nodedig ac wedi cymryd rhan mewn dosbarthiadau meistr gyda’r Fonesig Janet Baker, Richards Bonynge ac Ileana Cotrubas.
Fel pianydd mae wedi ymddangos gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Royal Liverpool Philharmonic Orchestra a’r English Northern Sinfonia a bu’n gyfeilydd i Gorws Cenedlaethol Cymreig y BBC am nifer o flynyddoedd.
Y dyddiau hyn, mae Sharon yn rhoi llawer o’i hamser i hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o gantorion a chyfeilyddion yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, lle mae hefyd yn aelod o staff yr Adran Allweddellau, gan arwain y modiwl Sgiliau Darllen Wrth Weld.
Yn ogystal â’i gwaith yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, ac fel Pennaeth Piano a Chydlynydd Addysgu Offerynnol yng Ngholeg Iwerydd UWC, mae’n mwynhau ymgysylltu â cherddorion ifanc o bob rhan o’r byd ac mae hefyd yn aelod o’r panel arholi ar gyfer ABBRSM.