Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Rachel Podger

Rôl y swydd: Tiwtor Feiolin Baróc

Adran: Perfformio hanesyddol

Bywgraffiad Byr

Mae Rachel Podger, ‘the unsurpassed British glory of the baroque violin’ (The Times), wedi’i sefydlu ei hun yn ddehonglydd blaenllaw o gerddoriaeth Baróc a Chlasurol. Hi oedd y fenyw gyntaf i ennill Gwobr Bach yr Academi Gerdd Frenhinol / Sefydliad Kohn ac Artist y Flwyddyn Gramophone 2018, a’r fenyw gyntaf i gael ei phenodi’n Llysgennad ar gyfer REMA’s Early Music Day 2020. A hithau’n rhaglennydd creadigol, Rachel yw sylfaenydd a Chyfarwyddwr Artistig Gŵyl Baróc Aberhonddu a’i ensemble, Brecon Baroque.

Arbenigedd

Fel cyfarwyddwr ac unawdydd, mae Rachel wedi cydweithio ar nifer di-rif o brosiectau gan gynnwys gyda Robert Levin, Jordi Savall, Masaaki Suzuki, Kristian Bezuidenhout, VOCES8, Robert Hollingworth ac I Fagiolini, Cerddorfa Baróc yr Undeb Ewropeaidd, English Concert, Orchestra of the Age of Enlightenment, Academy of Ancient Music, Holland Baroque Society, Tafelmusik (Toronto), The Handel and Haydn Society, Berkeley Early Music, ac Oregon Bach Festival.

A hithau’n addysgwr ymroddedig, mae’n dal Cadair Micaela Comberti ar gyfer Fiolín Baróc (a sefydlwyd yn 2008) yn yr Academi Gerdd Frenhinol a Chadair Ryngwladol Sefydliad Jane Hodge mewn Fiolín Baróc yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Mae gan Rachel berthynas â The Juilliard School yn Efrog Newydd gan ymweld â’r ysgol yn rheolaidd.

Caiff Rachel Podger ei rheoli’n fyd-eang gan Percius.

Cyflawniadau Nodedig

Enillodd Rachel amryw wobrau gan gynnwys dwy wobr Gramaphone Baroque Instrumental am La Stravaganza (2003) a Biber Rosary Sonatas (2016), y Diapason d’Or de l’année yng nghategori Ensemble Baróc am ei recordiad o goncertos La Cetra gan Vivaldi (2012), dwy wobr BBC Music Magazine yn y categori offerynnol am Guardian Angel (2014) a’r categori concerto am holl goncertos L’Estro Armonico gan Vivaldi (2016).

Proffiliau staff eraill