Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Philip Aird

Rôl y swydd: String Education Consultant

Adran: Llinynnau

Bywgraffiad Byr

Ar ôl graddio o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, cwblhaodd Philip ei astudiaethau Ôl-radd ar y feiolin yn y Guildhall School of Music and Drama, Llundain. Mae Philip bellach yn mwynhau gyrfa ym maes cerddoriaeth gyda rolau uwch reoli, perfformio ac addysg.

Mae’n aelod o Sinfonia y Bale Brenhinol ac wedi gweithio’n llawrydd gyda’r Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol, y Tŷ Opera Brenhinol, Opera Cenedlaethol Cymru, English National Opera, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a Cherddorfa Genedlaethol Frenhinol yr Alban. Mae Philip wrth ei fodd â sioeau cerdd ac mae wedi chwarae’n aml yn y West End yn Llundain ar gyfer sioeau megis Chicago, Phantom of the Opera, Carousel, Showboat a West Side Story. Mae ei waith stiwdio yn cynnwys nifer o recordiadau ar gyfer ffilm a theledu, gan gynnwys Harry Potter (The Half Blood Prince) a sawl cyfres ddrama ar gyfer y BBC ac ITV.

Arbenigedd

Fel addysgwr mae Philip wedi bod â swyddi dysgu mewn sawl ysgol annibynnol ac wedi rhoi cyflwyniadau yn y Guildhall School of Music and Drama, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a Chonservatoire Brenhinol Birmingham. Mae Philip yn gyd-sylfaenydd Part Play, ap ac adnodd ar-lein am ddim i fyfyrwyr sy’n dymuno astudio cerddoriaeth siambr.

Yn ei rôl fel Prif Swyddog Gweithredol ESTA UK, mae Philip wedi datblygu’r llwybr strategol ar gyfer ei gyrsiau datblygiad proffesiynol a’i raglenni achrededig. Mae galw mawr am wasanaeth Philip hefyd fel ymgynghorydd ac mae’n gweithio’n agos gyda’r diwydiant cerddoriaeth yn Ne Ddwyrain Asia a Gogledd America. Mae Philip yn Gymrawd Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau ac mae ganddo MBA o Ysgol Fusnes Aston.

Proffiliau staff eraill