Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Lucy Gould

Rôl y swydd: Tiwtor Feiolin

Adran: Llinynnau

Anrhydeddau: LRAM, DIPRAM, CYMRAWD ER ANRHYDEDD CBCDC A FRAM

Bywgraffiad Byr

Astudiodd Lucy yn yr Academi Gerdd Frenhinol, Llundain, a Phrifysgol Indiana, Bloomington gyda Gyorgy Pauk a Josef Gingold. Roedd dosbarthiadau meistr gydag Andras Schiff, Menahem Pressler ac aelodau Amadeus String Quartet yn Prussia Cove a’r Banff Centre for the Arts hefyd yn ysbrydoliaeth fawr yn y dyddiau cynnar. Mae’n mwynhau pob agwedd ar y repertoire, a hithau wedi perfformio sonatâu gyda Leon McCawley, triawdau clarinét gyda Robert Plane, triawdau corn gyda David Pyatt, Richard Watkins ac Alec Frank-Gemmill a cherddoriaeth siambr o bob lliw a llun gyda llawer o’r prif artistiaid yn y maes hwn mewn gwyliau yn y DU a thramor. Yn sgil ei phrofiad, cafodd wahoddiadau i ymddangos ar reithgorau rhyngwladol.

Arbenigedd

Mae Lucy yn fwyaf adnabyddus fel y fiolinydd ac aelod a sefydlodd y Gould Piano Trio, un o’r ensembles uchaf eu parch yn y DU. Mae sawl gwobr ryngwladol, amserlen brysur a chatalog recordiau trawiadol (repertoire craidd, gweithiau llai adnabyddus a gwaith comisiwn) yn tystio i ymroddiad Lucy i’r genre hwn ers cychwyn ar ei gyrfa.

Cyflawniadau Nodedig

Mae Lucy yn flaenwr gwadd rheolaidd i lawer o gerddorfeydd y DU ac mae’n brif ail fiolinydd gyda Cherddorfa Siambr Ewrop. Fel rhan o Academi Cerddorfa Siambr Ewrop, mae’n aml yn rhoi gwersi a chyngor i fiolynwyr addawol ac mae wedi cyfarwyddo perfformiadau myfyrwyr o Symffonïau Beethoven a Mozart.

Proffiliau staff eraill