Neidio i’r prif gynnwys

Adnodd addysgol The Angry Summer

Prosiect creadigol yw The Angry Summer sydd wedi’i ysbrydoli gan gerddi Idris Davies am streic y glowyr ym 1926, gan ddod â hanes Cymru yn fyw trwy farddoniaeth, pypedwaith a chyfansoddiadau newydd.

Allow Youtube content?

Lorem ipsum doler sit amet Youtube seto mor ameriloa. Porab le privacy policy et cookie policy. To view please accept below.

Poetry recordings

Hanes Cymru yn dod yn fyw

Bu tîm creadigol o fyfyrwyr a graddedigion o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (CBCDC) yn gweithio ar draws meysydd cynllunio, cyfansoddi a pherfformio i greu sioe bypedau sy’n tywys y gynulleidfa drwy fisoedd haf Streic y Glowyr 1926.

Mae’r prosiect yn cyfuno ymchwil hanesyddol â dehongliad creadigol, gan ddefnyddio pypedwaith i archwilio hanes gwleidyddol a chymdeithasol streic 1926, yn ogystal â phrofiadau ac ymatebion personol y cymunedau yr effeithiwyd arnynt. Mae hefyd yn annog cynulleidfaoedd i ystyried enghreifftiau mwy diweddar o weithredu diwydiannol, megis streic y glowyr yn yr 1980au, a rôl gweithredu ar y cyd mewn cymdeithas heddiw.

‘Mae’r ffilm The Angry Summer a grëwyd gan fyfyrwyr Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, yn dathlu gwaith y bardd Idris Davies ac yn cadw cof y Streic Gyffredinol ym 1926 yn fyw. Gobeithio y caiff y ffilm ei dangos yn eang. Mae’n adlewyrchiad gwych o enaid y gerdd ac ysbryd y Streic, cyfnod trasig ac arwrol yn ein hanes, ac mae hefyd yn arddangos doniau lu y bobl ifanc a luniodd, a ddatblygodd ac a gynhyrchodd y gwaith terfynol.’
Y Gwir Anrhydeddus yr Arglwydd Neil Kinnock
‘Gall hanes, yn enwedig hanes y dosbarth gweithiol, lithro trwy gof cenedlaethau os na chaiff ei ail-ddychmygu drwy gelf. Llwyddodd The Angry Summer gan Idris Davies i grynhoi hanes y Streic Gyffredinol a Chloi Allan y Glowyr ym 1926 mewn drama farddonol sy’n parhau i fywiogi ein diwylliant. Bellach mae myfyrwyr CBCDC wedi ail-ddychmygu’r gwaith epig hwn yn wych ar ffurf theatr bypedau, gan gydblethu geiriau, cerddoriaeth a chymeriadau i greu pont addysgol at hanes o frwydro a goroesi. Mae eu gwaith yn dangos grym parhaus ysgrifennu Davies, a gallu celf i ddod â’r gorffennol yn fyw.’
Yr Athro Dai Smith CBE

Tu ôl i’r llenni

Ynglŷn â’r adnodd addysgol

Mae’r pecyn addysgol hwn yn rhoi cipolwg i fyfyrwyr ac athrawon ar brosiect The Angry Summer a’i broses greadigol.

Mae’r pecyn yn cynnwys ffilm o’r perfformiad pypedau, sy’n cyfuno perfformiadau wedi’u recordio o farddoniaeth Idris Davies â cherddoriaeth wreiddiol a seinweddau. Mae’r ffilm yn cynnwys cyfweliadau â’r tîm creadigol, gan archwilio eu proses, pwysigrwydd gwaith creadigol fel hwn ac amcanion ehangach y prosiect.

Mae’r adnoddau wedi’u hanelu at fyfyrwyr TGAU sy’n astudio Celf a Dylunio, Drama, Llenyddiaeth Saesneg, Gwleidyddiaeth a Hanes, ac maent yn annog myfyrwyr i archwilio sut y gall ymarfer creadigol ein helpu i ddeall a dehongli’r gorffennol.

‘Mae’r pecyn wedi fy ysbrydoli i ddefnyddio’r tasgau yn ein prosiectau creu ffilmiau ac animeiddio ein hunain. Mae’r pecyn yn gweithio’n wych ar draws llawer o feysydd pwnc y tu allan i’r celfyddydau, gan hwyluso ymateb creadigol i ystod o bynciau. Mae cyfle i ddod ag amrywiaeth o bynciau cymdeithasol a hanesyddol yn fyw yn yr ystafell ddosbarth.’
Darren LathamAthro Celf, Ysgol Uwchradd Pen y Dre
‘Rwy’n hoffi’r pecyn yn fawr: mae’r cerddi’n ysbrydoledig ac yn annog cysylltiadau rhwng barddoniaeth a dylunio. Credaf ei fod yn cysylltu’n dda iawn â’n treftadaeth Gymreig ac yn rhoi mewnwelediad i ddisgyblion i’n gorffennol.’
Jennie GoughAthrawes Gelf, Ysgol Cardinal Newman ac Arweinydd Tîm TGAU CBAC
‘Byddai hyn yn rhoi ysgogiad gwerthfawr ar gyfer gwaith cwrs cyfansoddi rhydd ar lefelau TGAU a Safon Uwch, gan roi’r annibyniaeth i fyfyrwyr ddatblygu eu prosiectau creadigol eu hunain.’
Benjamin WilkinsonAthro Cerddoriaeth ac Arweinydd Tŷ Hardwick yn Ysgol Wellington, Gwlad yr Haf
‘Mae’r cynnwys yn dda ar gyfer “ymestyn a herio” – rhywbeth rydyn ni gyd yn ceisio ei ddarparu i ddysgwyr er mwyn ehangu eu dealltwriaeth a dyfnhau eu ffordd o feddwl.’
Vivienne GoodmanAstudiaethau Drama a Theatr, Coleg Gwent

Gwybodaeth ddefnyddiol


Adran archwilio