Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

MA Theatr Gerddorol

  • Dyfarniad:

    MA Theatr Gerddorol

  • Corff dyfarnu:

    Prifysgol De Cymru

  • Lleoliad astudio:

    Caerdydd (CBCDC, Stiwdios Llanisien a’r Hen Lyfrgell)

  • Dyddiad dechrau:

    19 Medi 2027

  • Hyd:

    10 mis llawn amser

  • Cod y cwrs:

    713F - UCAS Conservatoires

Cyflwyniad

Mae’r cwrs blwyddyn hwn yn cyfuno hyfforddiant technegol uwch, arfer proffesiynol cyfredol a dysgu sy’n seiliedig ar ymchwil i’ch helpu i fodloni gofynion y diwydiant theatr gerddorol sy’n esblygu’n gyson.

Byddwch yn hyfforddi ochr yn ochr â rhai o ymarferwyr blaenllaw’r diwydiant tra’n adeiladu eich hunaniaeth artistig mewn amgylchedd conservatoire diogel a chroesawgar.

Gallwch ddewis un o dri llwybr penodol – Perfformio, Cyfarwyddo Cerddorol neu Addysgu Canu – sydd i gyd yn darparu cymwysterau a set sgiliau amrywiol y mae galw mawr amdanynt ledled y byd ar hyn o bryd

Pam dewis y cwrs MA Theatr Gerddorol yn CBCDC?

Datblygu eich dawn artistig yn un o gonservatoires theatr gerddorol gorau’r DU

Ystyrir CBCDC yn un o’r lleoedd gorau yn y DU i astudio theatr gerddorol. Mae ein cwrs MA Theatr Gerddorol yn darparu hyfforddiant o’r radd flaenaf a hefyd proffesiynol a all eich helpu i gynnal gyrfa yn y diwydiant.

Llwybrau wedi’u targedu ar gyfer gyrfaoedd perfformio, cyfarwyddo cerddorol neu addysgu canu

Mae’r llwybrau galwedigaethol hyn i’r diwydiant theatr gerddorol yn rhoi’r hyfforddiant sydd ei angen arnoch i ehangu eich ystod o sgiliau neu newid gyrfa.

Bydd hyfforddiant dwys, seiliedig ar ymarfer, sy’n adlewyrchu disgwyliadau cyfoes y diwydiant, gyda gwaith rihyrsio a hyfforddiant perfformio dyddiol, yn ffurfio sail i’ch dysgu.

Hyfforddiant arbenigol gan ymarferwyr sy’n arbenigwyr o bob rhan o’r diwydiant

Byddwch yn cael eich arwain gan dîm a gydnabyddir yn rhyngwladol sydd ag arbenigedd mewn perfformio, addysgu ac ymarfer theatr gerddorol, gan gynnwys Hyfforddiant Llais Estill. Mae’r tîm yn cynnig nid yn unig hyfforddiant o’r radd flaenaf, ond hefyd cyfleoedd mentora a rhwydweithio.

Yn ogystal, byddwch yn cael lefel eithriadol o sylw unigol a hyfforddiant gyrfa, a holl fanteision gweithio fel rhan o ensemble bach.

Cael mewnwelediad proffesiynol a chysylltu â’r diwydiant

Mae ein cysylltiadau cryf â’r diwydiant, yng Nghymru a thu hwnt, yn sicrhau bod eich hyfforddiant yn cyd-fynd ag arfer proffesiynol cyfredol.

Cewch hefyd gyfleoedd i gwrdd a gweithio’n agos â chyfarwyddwyr, cyfarwyddwyr cerdd a choreograffwyr nodedig, yn ogystal ag artistiaid gwadd. Mae hyn yn eich helpu i feithrin cysylltiadau â’r diwydiant theatr gerddorol ac yn rhoi mewnwelediad gwerthfawr i sut mae’r proffesiwn yn gweithio.

Trochi eich hun mewn cymuned conservatoire greadigol a chydweithredol

Byddwch yn cydweithio’n agos ag adrannau cerddoriaeth, cynhyrchu a chynllunio CBCDC, gan eich rhoi yng nghanol ein cymuned greadigol amrywiol.

Hyfforddi mewn amgylchedd canolfan gelfyddydau groesawgar

Byddwch yn astudio yng nghanol Caerdydd mewn canolfan gelfyddydau weithredol sy’n gartref i raglen perfformiadau cyhoeddus a gydnabyddir yn rhyngwladol. Bob blwyddyn rydym yn croesawu artistiaid o fri o bob cwr o’r byd, ac rydym yn eich annog i fynychu cymaint o’r digwyddiadau hyn â phosibl (a gallwch wneud hynny am ddim neu am bris gostyngol i fyfyrwyr).

Astudio a byw ym mhrifddinas ddeinamig Cymru

Mae Caerdydd yn lle cyfeillgar, fforddiadwy a chreadigol i fod yn fyfyriwr. Fe fyddwch yn rhan o sin gerddoriaeth a chelfyddydau ffyniannus, gyda phrif leoliadau ar garreg eich drws a chyfleoedd i gymryd rhan mewn perfformiadau, gwaith allgymorth yn y gymuned a digwyddiadau proffesiynol.

Gallwch ddewis arbenigo mewn un o dri maes, sy’n cael eu galw’n ‘llwybrau’:

You can choose to specialise in one of three areas, which we call ‘pathways.

Llwybrau

Beth fyddwch chi’n ei astudio – strwythur y cwrs MA Theatr Gerddorol

Yn y rhaglen hyfforddi uwch hon, rydym yn creu’r amgylchiadau – trwy waith dosbarth, rihyrsal a pherfformio – a fydd yn eich ysgogi i ddatblygu sgiliau arbenigol yn eich llwybr dewisol.

Gyda’r rhaglen, gallwch bontio’r bwlch rhwng gradd a enillwyd mewn pwnc gwahanol (neu brofiad blaenorol arall) a’r safon a ddisgwylir gan gyflogwyr yn y diwydiant theatr gerddorol.

Ffocws ar ddatblygiad artistig a phroffesiynol

Nid yw’r cwrs MA hwn yn cyd-fynd ag unrhyw athroniaeth benodol o hyfforddiant theatr gerddorol. Yn hytrach, cewch eich cyflwyno i lawer o ddylanwadau, arferion a strategaethau, gan ganiatáu i chi wneud dewisiadau gwybodus am y dulliau yr hoffech eu hymgorffori yn eich gwaith eich hun.

Mae’n blaenoriaethu cyflogadwyedd, parodrwydd proffesiynol ac unigoliaeth artistig, gan eich helpu i adeiladu llwybr gyrfa cynaliadwy.

Cymysgedd o hyfforddiant ymarferol, technegol a hyfforddiant a arweinir gan ymchwil

Mae eich hyfforddiant yn cyfuno profiad ymarferol a hyfforddiant arbenigol wedi’i arwain gan diwtoriaid, cyfarwyddwyr a hyfforddwyr amlwg. O’r wythnos gyntaf byddwch yn gweithio i amserlen ddwys, sy’n cynnwys gwersi unigol a grŵp, gweithdai a rihyrsals.

Byddwch yn dangos eich sgiliau mewn actio, canu, cyfarwyddo cerddorol, neu addysgeg llais drwy ystod o ddigwyddiadau ar gyfer y cyhoedd, lleoliadau addysgu dan oruchwyliaeth a chyfleoedd arweinyddiaeth ensemble. Ar gyfer rhai o’r profiadau hyn byddwch yn ymgysylltu’n uniongyrchol â chyflogwyr, asiantau a gweithwyr castio proffesiynol.

Ochr yn ochr â hyn, byddwch yn datblygu’r sgiliau myfyrio beirniadol ac ymchwil hanfodol a fydd yn tanio eich creadigrwydd.

Mae’r modiwl craidd mewn Astudiaethau Proffesiynol yn eich helpu i ddysgu sut i lywio drwy waith llawrydd, contractau, cynllunio ariannol ac ymarfer proffesiynol cynaliadwy.

Darganfod diwylliant bywiog Cymru

Cewch hefyd gyfle i archwilio gweithiau theatr gerddorol cyfoes a hanesyddol Cymru, a chyfansoddiadau cyfoes Cymru. Mae’r cwrs hefyd yn cynnwys cyfleoedd i ymgysylltu ag artistiaid, cyfansoddwyr ac awduron sy’n Gymry Cymraeg ar weithiau theatr gerddorol newydd sy’n adlewyrchu themâu a naratifau Cymreig.

Dysgu gweithio fel tîm

Drwy gydol eich cwrs, byddwch yn datblygu dealltwriaeth o sut mae ymddiriedaeth, gwaith tîm cydweithredol, a nodau artistig a rennir yn llunio sylfaen ymarfer proffesiynol effeithiol ym maes theatr gerddorol. Byddwch hefyd yn dadansoddi sut mae’r ddeinameg hon yn siapio prosesau creadigol, diwylliant cwmni, a chanlyniadau cynhyrchu ar draws amgylcheddau gwaith amrywiol.

Cyfleoedd perfformio a chydweithio

Gall myfyrwyr o bob llwybr gymryd rhan mewn amrywiaeth o gyfleoedd perfformio allanol, sy’n pontio’r bwlch rhwng hyfforddiant yn yr ystafell ddosbarth a’r diwydiant proffesiynol. Mae’r cyfleoedd hyn yn dyfnhau eich sgiliau technegol, yn eich helpu i ehangu eich hunaniaeth artistig ac yn gwella eich cyflogadwyedd.

Byddwch yn gweithio’n agos gyda myfyrwyr o raglenni eraill CBCDC, gan ddatblygu sgiliau a gwybodaeth hanfodol yn y diwydiant, a gweithio tuag at nodau cynhyrchu cyffredin. Mae’r cydweithrediadau hyn yn rhoi cyfle i adeiladu partneriaethau artistig parhaol ac ystyrlon tra’n dysgu am arfer gorau mewn gyrfaoedd perfformio.

Perfformiadau cabaret

Efallai y cewch gyfle hefyd i greu a llwyfannu eich gwaith hunangyfeiriedig eich hun mewn lleoliadau perfformio lleol megis Canolfan Mileniwm Cymru, Canolfan Gelfyddydau Muni a Phafiliwn Penarth.

Perfformiadau cyngerdd

Efallai y cewch eich gwahodd i gymryd rhan mewn cyfleoedd perfformio allanol, megis cyngherddau Dydd y Cofio neu ddigwyddiadau a lwyfannir gan gwmnïau rheoli digwyddiadau.

Cyfleoedd cyflogaeth proffesiynol

O bryd i’w gilydd cawn geisiadau i’n myfyrwyr Theatr Gerddorol gymryd rhan mewn cyfleoedd cyflogaeth proffesiynol – mae enghreifftiau diweddar yn cynnwys gwaith Theatr mewn Addysg a theithio gyda Theatr Royal Court Lerpwl a Theatr Gŵyl Chichester.

Cwestiynau cyffredin

Beth mae ein myfyrwyr yn ei ddweud

'Roeddwn i'n gwybod bod angen i mi gael hyfforddiant. Roeddwn i'n gwybod ei fod yn hanfodol oherwydd fel arall chawn i ddim gyrfa hirhoedlog. CBCDC oedd yr ysgol berffaith i gael yr hyfforddiant hwnnw o safon y diwydiant, a hefyd i mi fel person. Mae wedi rhoi'r grym i mi fod yn actor cyflawn, yn barod i ddechrau ar fy ngyrfa. Mae actio yn waith mor amlweddog a'r hyn mae'r Coleg yn ei wneud mor wych yw eich cael i ymdrochi ynddo, gan weithio gyda chymaint o arbenigwyr, o'r radio i'r sgrin a phob agwedd arall.'
Callum Scott HowellsGraddedig a Chymrawd
‘Fel artist o Sarajevo, Bosnia a Herzegovina, sydd â chefndir proffesiynol toreithiog mewn theatr a cherddoriaeth, roeddwn i’n chwilio am raglen a fyddai’n fy nghymell i dyfu a datblygu fy sgiliau. Fe lwyddodd y rhaglen MA Theatr Gerdd i wneud hynny a mwy, gan fy herio ac agor pennod newydd o bosibiliadau.

Mae cael fy nhrochi yn holl berfformiadau a gweithgareddau unigryw y Coleg, gweithio gyda darlithwyr a thiwtoriaid gorau’r diwydiant, a bod wrth galon cwrs arloesol wedi sbarduno fy mhenderfyniad, fy nychymyg a fy nghreadigrwydd. Rydw i wedi dod yn fwy ymwybodol o fy nilysrwydd, sy’n mynd i fod yn eithriadol o fuddiol ar gyfer fy ngyrfa.’
Nikolina VujicMyfyriwr MA

Angen cyngor cyn gwneud cais?

Mae ein tîm derbyniadau yn hapus i helpu gydag unrhyw gwestiynau’n ymwneud â gofynion ar gyfer derbyn, clyweliadau neu fywyd yn CBCDC. E-bostiwch admissions@rwcmd.ac.uk i ddechrau arni.

Cofrestru i gael ein newyddion diweddaraf

Bydd e-bost yn cael ei anfon yn gofyn i chi gadarnhau eich cyfeiriad. Edrychwch yn eich ffolder sbam / sothach os nad yw'r e-bost yn cyrraedd o fewn ychydig funudau

Mae’r Coleg yn cymryd diogelu pob gwybodaeth bersonol o ddifrif ac mae wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu hawliau a rhyddid pob unigolyn. Byddwn yn prosesu eich data yn unol â’n datganiad preifatrwydd, y gallwch ei ddarllen yn https://www.rwcmd.ac.uk/cy/privacy

(Gofynnol)

(Gofynnol)

(Gofynnol)

Blwyddyn mynediad:
Rhanbarth:

Newyddion diweddaraf