Neidio i’r prif gynnwys

Ramps Cymru

Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn falch o fod yn bartner i Ramps Cymru, partneriaeth newydd sy’n dwyn ynghyd gydweithrediad o gwmnïau theatr prif ffrwd Cymru.

Nod Ramps Cymru yw creu newid ystyrlon a chynaliadwy, gan wella cynrychiolaeth pobl anabl (gan gynnwys pobl fyddar, niwrowahanol a phobl ag anableddau dysgu) ar draws sector theatr prif ffrwd Cymru.

‘Os ydym am wneud y diwydiant celfyddydol yn hygyrch i bawb, yna mae’n rhaid i ni ddechrau gyda hyfforddi pobl ifanc greadigol anabl, felly mae’r Coleg yn bartner pwysig iawn,’
Sara BeerCyfarwyddwr Newid Ramps Cymru.

‘Rydym am ddefnyddio’r prosiect hwn fel catalydd i wneud newid parhaol, gan harneisio’r egni creadigol hwn i wneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Er enghraifft, cynhyrchiad integredig Iaith Arwyddion Prydain diweddar y Coleg o ‘A Christmas Carol’ - gwaith cynhwysol a oedd nid yn unig yn dysgu setiau sgiliau newydd i’r actorion, ond hefyd yn dod â chynulleidfa newydd i Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.’

Erin y dehonglydd BSL gyda Scrooge yn A Christmas Carol

What's next?

Mae’r cam cyntaf hwn o newid ar gyfer Ramps Cymru yn cynnwys archwiliadau o bob sefydliad partner, sgyrsiau â’r sector, hyfforddiant ar draws sefydliadau partner, a manylion modelu ar gyfer pum mlynedd nesaf rhaglen newid.

Dan arweiniad y Cyfarwyddwr Newid, ein cyd-bartneriaid yw Theatr Clwyd, Theatr Sherman, Celfyddydau Pontio a Theatr Torch.


Archwilio’r adran