Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Gradd Sylfaen mewn Celf Golygfeydd

  • Dyfarniad:

    Gradd Sylfaen mewn Celf Golygfeydd

  • Corff dyfarnu:

    Prifysgol De Cymru

  • Lleoliad astudio:

    Caerdydd (CBCDC, Stiwdios Llanisien)

  • Dyddiad dechrau:

    04 Awst 2024

  • Hyd:

    2 flynedd llawn amser

  • Cod y cwrs:

    RW03 – UCAS

Cyflwyniad


Yn y cwrs hwn sy’n canolbwyntio ar leoliadau gwaith, byddwch yn dysgu sut mae creu setiau llwyfan, cefndiroedd a phropiau ar gyfer perfformiadau cyhoeddus, teledu a ffilmiau.

Trosolwg o’r cwrs

Bydd ein cwrs dan arweiniad y diwydiant yn rhoi’r holl sgiliau sydd eu hangen arnoch i greu setiau llwyfan, cefndiroedd a phropiau ar gyfer perfformiadau cyhoeddus a gwaith ar brosiectau teledu a ffilm mawr.

Dan arweiniad tîm o staff sy’n weithwyr proffesiynol profiadol, byddwch yn dysgu holl brif arferion gweithdy’r diwydiannau llwyfan a sgrin.

Mae’r arferion hyn yn cynnwys technegau peintio a gweadu sylfaenol, gwneud propiau, gwaith metel a sut i ddefnyddio offer a chyfarpar perthnasol arall – fel hyfforddiant sgiliau cyfrifiadurol craidd (sy’n arbenigo mewn fusion360 ac Auto Cad), a fydd yn eich galluogi i ddefnyddio torwyr laser, peiriannau argraffu 3D a chyfarpar rheoli rhifau cyfrifiadurol (CNC).

Byddwch wedyn yn rhoi eich gwybodaeth newydd ar waith, lle byddwch yn cael nifer o leoliadau gwaith – mewn cynyrchiadau'r Coleg a gyda’n partneriaid yn y diwydiant, sy’n creu setiau a phropiau ar gyfer rhai o gynyrchiadau mwyaf y wlad.

Hwn yw'r unig gwrs o’i fath y tu allan i Lundain, ac mae’n cynnig amgylchedd croesawgar a diogel lle gallwch arbrofi a gwthio eich ffiniau creadigol. Byddwch yn dod i’r amlwg fel arbenigwr yn eich disgyblaeth, yn barod i ffynnu yn y diwydiant heriol hwn sy’n newid o hyd.

Pam astudio’r cwrs hwn?

  • Byddwch yn cael dealltwriaeth ddofn o’r technegau, y crefftau, y strwythurau a’r dulliau gweithio a ddefnyddir yn y diwydiant heddiw. Mae hyn yn cynnwys saernïo metel a gwaith coed (yn hanesyddol, dim ond arbenigedd mewn un maes sydd gan lawer o arbenigwyr).
  • Byddwch yn hyfforddi gyda thîm o staff sy’n weithwyr proffesiynol medrus iawn yn y diwydiant. Maent yn eich mentora yn ogystal â chynnig cyfleoedd rhwydweithio ac addysg o’r radd flaenaf i chi.
  • Mae’r rhan fwyaf o’r cwrs dwy flynedd hwn yn canolbwyntio ar ddefnyddio eich sgiliau mewn amrywiaeth o wahanol leoliadau – mewn cynyrchiadau Coleg ac mewn lleoliadau gyda’n partneriaid yn y diwydiant.
  • Mae’r partneriaid hyn yn y diwydiant yn gwmnïau sy’n gweithio gyda rhai o’r theatrau mwyaf ac uchaf eu bri yn y DU a thramor. Mae ein partneriaid a’n cefnogwyr yn cynnwys Theatr Clwyd, The Bakehouse Factory, Opera Cenedlaethol Cymru, Gwasanaethau Theatrig Caerdydd, Bay Productions, Wild Creations, Four Wood a Bad Wolf.
  • Byddwch yn gweithio ochr yn ochr â myfyrwyr eraill o’n hadrannau dylunio a rheoli llwyfan ac yn rhyngweithio â’r unigolion hynny o bob rhan o’n cyrsiau celfyddydau perfformio. Bydd y cydweithrediadau hyn yn eich helpu i ddatblygu dealltwriaeth o’r meysydd eraill yn sector y celfyddydau creadigol – a chreu partneriaethau creadigol sy’n gallu para am oes.
  • Mewn o leiaf un o’ch lleoliadau gwaith, byddwch yn ymgymryd â rôl arweinydd celfyddydau golygfeydd ar gyfer cynhyrchiad sy’n cael ei berfformio yma yn y Coleg. Bydd hyn yn eich arwain i ddilyn y broses ddylunio, gan weithio gyda’r dylunydd i gynhyrchu’r costau angenrheidiol a samplau o baent, yn ogystal â goruchwylio ac arwain myfyrwyr BA ac MA Dylunio ar eu lleoliadau cynhyrchu.
  • Mae ein cysylltiadau cryf â diwydiant hefyd yn golygu bod eich hyfforddiant yn adlewyrchu’r arferion gorau diweddaraf ym maes teledu, ffilm a llwyfan.
  • Ein cyfleusterau gweithdy yw’r mwyaf sy’n cynnwys yr offer gorau o unrhyw conservatoire cystadleuol – a byddwch yn gweithio ar yr un offer â’r arbenigwyr hynny yn y diwydiant.
  • Rydyn ni’n cadw niferoedd y carfannau’n fach – llai na 10 myfyriwr y flwyddyn – felly byddwch yn cael llawer o gefnogaeth unigol drwy gydol eich cwrs.
  • Byddwch hefyd yn datblygu eich sgiliau arwain a rheoli, gan roi’r hyder i chi ffynnu mewn amgylchedd proffesiynol ar ôl i chi raddio.
  • Am hyd at dair blynedd ar ôl i chi gwblhau eich cwrs, bydd gennych yr opsiwn o 'ychwanegu' at eich cymhwyster. Gallwch wneud hyn drwy gwblhau blwyddyn astudio ychwanegol i ennill cymhwyster lefel 6 fel rhan o’n gradd BA (Anrh) Dylunio ar gyfer Perfformiad.

Gwybodaeth arall am y cwrs

Cofrestru i gael ein newyddion diweddaraf

Bydd e-bost yn cael ei anfon yn gofyn i chi gadarnhau eich cyfeiriad. Edrychwch yn eich ffolder sbam / sothach os nad yw'r e-bost yn cyrraedd o fewn ychydig funudau

Mae’r Coleg yn cymryd diogelu pob gwybodaeth bersonol o ddifrif ac mae wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu hawliau a rhyddid pob unigolyn. Byddwn yn prosesu eich data yn unol â’n datganiad preifatrwydd, y gallwch ei ddarllen yn https://www.rwcmd.ac.uk/privacy

Blwyddyn mynediad:
Rhanbarth:

Allow Unistats content?

Lorem ipsum doler sit amet Unistats seto mor ameriloa. Porab le privacy policy et cookie policy. To view please accept below.

Beth sydd ymlaen

Newyddion diweddaraf