Amserlenni’r Cwrs
Mae’r modiwl sgiliau chwe wythnos cyntaf yn cychwyn ar ddechrau mis Awst. Yna bydd cyfres o leoliadau seiliedig ar waith chwe wythnos yr un yn rhedeg drwy weddill y cwrs gyda dosbarthiadau a gweithdai gyda’r hwyr yn cael eu cynnal yn gyfochrog.
Yr oriau addysgu craidd yw dydd Llun i ddydd Gwener 9am-6pm a dylai myfyrwyr ddisgwyl bod yn rhan mewn dosbarthiadau a gweithgareddau eraill.
Yn ystod prosiectau cynhyrchu a lleoliadau, ac yn arbennig yn ystod rhediadau perfformio, bydd gweithgareddau ychwanegol gyda’r hwyr ac ar benwythnosau.
Addysgu a Dysgu
Drwy gydol eich hyfforddiant, byddwch yn derbyn arweiniad a chefnogaeth gan dîm craidd sefydledig o staff yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Arweinydd y Cwrs fydd eich tiwtor personol drwy gydol eich cyfnod yn y Coleg a byddwch yn mynychu tiwtorialau cynnydd unigol ddwywaith y tymor yn ogystal â dosbarthiadau tiwtorial grŵp rheolaidd.
Treulir y rhan fwyaf o’ch amser ar leoliadau gwaith, yn fewnol yn CBCDC ac yn allanol gyda phartneriaid yn y diwydiant. Yn ystod y lleoliadau hyn cewch eich goruchwylio a’ch mentora gan weithwyr proffesiynol yn y diwydiant.
Cynhelir y rhan fwyaf o’r seminarau, dosbarthiadau a gwaith prosiect dan oruchwyliaeth yn Stiwdios Llanisien. Bydd disgwyl i chi hefyd cwblhau gwaith prosiect a chynhyrchu yn annibynnol yn Stiwdios Llanisien.
Bydd holl wasanaethau canolog y Coleg, gan gynnwys Adnoddau Llyfrgell a Gwasanaethau Gwybodaeth, ar gael i fyfyrwyr o ddechrau eu cwrs.
Gwahoddir chi hefyd i fynychu digwyddiadau ymsefydlu a drefnir ar gyfer yr holl fyfyrwyr newydd ar ddechrau’r prif sesiwn academaidd ym mis Medi.
Gall y Coleg gynnig cyngor cyfrinachol a phroffesiynol ac ystod o gefnogaeth ymarferol er mwyn sicrhau y gall myfyrwyr ddechrau eu hastudiaethau yn CBCDC, symud drwy eu cwrs, a graddio’n llwyddiannus.
Rydym yn cyflogi Cynghorwr Lles Meddwl penodol ac yn darparu mynediad am ddim at wasanaeth cwnsela cyfrinachol. Gall ein Cynghorwr Anabledd ddarparu cymorth i fyfyrwyr i wneud cais am Lwfans Myfyrwyr Anabl, trefnu asesiadau anghenion, a datblygu Cynlluniau Cymorth Unigol, a allai gynnwys cefnogaeth tiwtorial arbenigol ychwanegol ar gyfer myfyrwyr sydd ag anawsterau dysgu penodol neu anghenion ychwanegol.
Mae gan Lyfrgell CBCDC dros 50,000 o eitemau sy’n cynnwys llyfrau, cyfnodolion, papurau newydd a deunyddiau clyweledol. Mae’n gartref i gasgliad benthyca mwyaf y DU o setiau drama yn Saesneg. Gellir cael mynediad at adnoddau ar-lein am ddim yn y Llyfrgell, sy’n cynnwys cronfeydd data a miloedd o destunau drama a recordiadau o gynyrchiadau theatr a rhaglenni dogfen cefn llwyfan.
Asesiad ac Adborth
Yn greiddiol i’r cwrs mae’r lleoliadau cynhyrchu. Mae’r rhain yn rhoi’r cyfle gorau i asesu eich cynnydd a’ch parodrwydd ar gyfer eich gyrfa. Fel rhan o’ch gwaith cwrs ac asesiad parhaus, bydd gofyn i chi lunio cynnig amcanion personol ar ddechrau pob lleoliad a hunanwerthusiad ysgrifenedig ar y diwedd.
Mae’r meini prawf ar gyfer asesu yn adlewyrchu arferion gwaith yr amgylchedd proffesiynol, a’r sgiliau sydd eu hangen gan ei ymarferwyr.
Mae asesiad o’r modiwl Sgiliau’r Diwydiant ar Lefel 5 yn cynnwys cyflwyniad ac arddangosiad 20 munud o hyd yn ymwneud â maes penodol sydd o ddiddordeb i chi.
Dylech ystyried eich deialog parhaus gyda thiwtoriaid a goruchwylwyr yn ystod dosbarthiadau, prosiectau a chynyrchiadau yn rhan hollbwysig o’r adborth rydych yn ei dderbyn drwy gydol y cwrs, a’r cyngor a fydd fwyaf defnyddiol i chi yn eich bywyd gwaith yn y dyfodol.
Gallwch ddisgwyl derbyn adborth ffurfiol, naill ai’n ysgrifenedig neu ar lafar, o fewn 20 diwrnod i ddiwrnod olaf y prosiect neu’r cynhyrchiad.
Cyhoeddir trawsgrifiadau academaidd ffurfiol ar ddiwedd pob blwyddyn academaidd.
Mae copi o reolau a rheoliadau’r cwrs hwn ar gael.