Adeiladu Golygfeydd

Adeiladu Golygfeydd

‘Mae’r cynnydd enfawr mewn cynhyrchu gwaith ffilm a theledu, gan ddenu’r crefftwyr medrus sydd ar gael i adael y gweithdai mwy traddodiadol, wedi creu prinder gwirioneddol yn y diwydiant. Mae’r cwrs unigryw hwn yn gobeithio mynd i’r afael â rhai o’r prinderau hyn ar draws y sector creadigol.’ 

Mike Robinson, Arweinydd Cwrs ar gyfer y Radd Sylfaen mewn Adeiladu Golygfeydd  

Dewch yn weithiwr proffesiynol sy’n barod ar gyfer y diwydiant gyda’r cwrs dwys hwn sy’n canolbwyntio ar brofiad ymarferol proffesiynol gyda rhai o’r enwau mwyaf ym maes adeiladu setiau yn y DU. 

Pam astudio adeiladu golygfeydd yn CBCDC? 

  • Mae profiad helaeth yn y diwydiant yn sail i’r rhaglen ddwy flynedd hon, sef yr unig un o’i bath yn y wlad. Byddwch yn cael hyfforddiant ymarferol mewn adeiladu setiau theatrig, ar gyfer cynyrchiadau CBCDC ac yn ystod cyfres o leoliadau gwahanol gyda’n partneriaid proffesiynol yn y diwydiannau theatr, ffilm a theledu. 

  • Mae’r partneriaid hyn yn rhai o’r sefydliadau adeiladu golygfeydd mwyaf yn y DU, megis Cardiff Theatrical Services, Bay Productions, 4Wood a Wild Creations. 

  • Gyda dim ond wyth lle ar gael bob blwyddyn, mae ein hyfforddiant yn cynnig cryn dipyn o sylw personol i chi gan ein hymarferwyr profiadol sy’n arbenigwyr yn eu maes, a byddwch yn cael eich trin fel gweithiwr proffesiynol o’r diwrnod cyntaf. 

  • Pan na fyddwch ar leoliad byddwch yn treulio eich amser yn ein gweithdai llawn adnoddau yn Stiwdios Llanisien, lle byddwch yn dysgu gwaith coed, gweithio gyda metel, meddalwedd lluniadu ar gyfer cyfrifiaduron, yn ogystal â rhaglennu ein peiriant CNC i dorri siapiau cymhleth mewn deunydd dalennog. 

  • Byddwch yn cael gwir deimlad o sut beth yw gweithio ochr yn ochr ag ymarferwyr o feysydd cynhyrchu eraill. Er enghraifft, yn ein gweithdai byddwch yn hyfforddi ochr yn ochr â myfyrwyr Cynllunio ar gyfer Perfformio a Rheoli Llwyfan, gan gydweithio â nhw i gyflwyno prosiectau arloesol a llawn ysbrydoliaeth yn CBCDC ac ar eich cyfnod ar leoliad. 

  • Bydd eich gwaith ymarferol yn amlwg ar lwyfannau ein gofodau theatr ar gyfer cynyrchiadau drama, opera a theatr gerddorol CBCDC. 

  • Nid oes angen profiad adeiladu blaenorol arnoch i gael lle ar y cwrs: rydym yn chwilio am fyfyrwyr angerddol, dyfeisgar, creadigol sy’n agored i gael eu herio a rhoi cynnig ar bethau newydd.  

‘Mae gwaith adeiladu golygfeydd yn ffynnu ochr yn ochr â thwf y maes cynhyrchu ffilm a theledu yng Nghymru. Mae’n bleser gennym gefnogi’r Coleg i hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o ymarferwyr i ymgymryd â swyddi newydd yn y diwydiant.’ 

Hannah Raybould, Rheolwr Gweithrediadau Bad Wolf

Logo - Bad Wolf

Graddedigion sy’n barod ar gyfer diwydiant 

Cewch eich trin fel gweithwyr proffesiynol o’r diwrnod cyntaf, gan weithio gydag adrannau eraill ar draws y Coleg, ac yn raddol adeiladu mwy o wybodaeth a phrofiad yn eich set sgiliau. Byddwch yn ysgwyddo lefelau cynyddol o gyfrifoldeb am greu a gosod setiau llwyfan. Mae cyflogadwyedd yn elfen bwysig iawn yn y cwrs ac mae’r hyfforddiant technegol hwn, yn ogystal â’r dosbarthiadau mewnol am ddatblygiad proffesiynol, ymwybyddiaeth ariannol a rheoli prosiectau, yn sicrhau eich bod yn barod ar gyfer y diwydiant pan fyddwch yn graddio. 

  • Dysgu mwy am CBCDC
    • Mae ein sefydliad amlddiwylliannol ffyniannus yn croesawu 800 o fyfyrwyr o dros 40 o wledydd. Byddwch yn hyfforddi ochr yn ochr ag offerynwyr, actorion, cantorion, cyfansoddwyr a chynllunwyr ar gyfer perfformio eraill ac yn gweithio gyda hwy ar brosiectau drwy gydol y flwyddyn.
    • Mae cydweithio yn rhan enfawr o’r hyn a wnawn, gan eich galluogi i drochi mewn profiadau newydd gydag ystod eang o ddisgyblaethau a sgiliau o bob adran o’r Coleg. Mae ein cwmni REPCo unigryw a arweinir gan fyfyrwyr yn annog myfyrwyr i gydweithio i fod yn feiddgar, yn llawn dychymyg ac yn entrepreneuraidd.
    • Mae ein partneriaethau â diwydiant yn rhoi profiadau dysgu gwell yn y byd go iawn gyda sefydliadau celfyddydol a cherddorion proffesiynol blaenllaw, a hefyd yn cynnig cyfleoedd i chi ddatblygu eich rhwydweithiau proffesiynol ar gyfer y dyfodol.
    • Mae CBCDC yn ganolfan gelfyddydau brysur sy’n llwyfannu 500 o berfformiadau’r flwyddyn (llawer ohonynt am ddim) sy’n gyfuniad o artistiaid o’r radd flaenaf a gwaith myfyrwyr, yn aml ochr yn ochr. Mae digwyddiadau mawr rheolaidd yn CBCDC yn cynnwys Cerddor Ifanc y Flwyddyn y BBC, BBC Canwr y Byd Caerdydd a digwyddiadau annibynnol fel Cyngres Telynau’r Byd ym mis Gorffennaf 2022.
    • Y Coleg yw’r conservatoire cyntaf yn y DU i gyflawni lefel safon aur o sicrwydd ansawdd ar draws meysydd Cerddoriaeth, Drama a Dan 18 yn adolygiad Gwella Ansawdd Cerddoriaeth rhyngwladol diweddar MusiQuE. Gwnaeth agwedd y Coleg o ran profiad myfyrwyr unigol, cydweithio amlddisgyblaethol ac uchelgais cyffredinol argraff arbennig ar yr adolygwyr, a nododd fod CBCDC yn enghraifft ddisglair o arfer gorau ar draws conservatoires Ewrop, ac yn adlewyrchu pobl eithriadol a chymuned unigryw’r Coleg. 
    • Fel yr unig gonservatoire Steinway cyfan yn y byd mae gan y Coleg bellach fflyd o bianos o’r radd flaenaf, ac mae pob piano acwstig yn y Coleg yn un Steinway.
    • Credwn yn sylfaenol yng ngrym cerddoriaeth i drawsnewid a chyfoethogi cymdeithas, gan ddatblygu sgiliau addysgu, hyfforddi a chyd-greu prosiectau i greu cerddorion y dyfodol a fydd yn gwneud argraff fel perfformwyr, athrawon a galluogwyr o fewn y gymuned ehangach. Mae cwestiynau sylfaenol - ‘Sut gallwn siapio diwydiant y dyfodol’, ‘Sut gallwn ddefnyddio celfyddyd i wneud gwahaniaeth’ – yn ein helpu i gynhyrchu cerddorion sy’n wirioneddol berthnasol i’r byd yr unfed ganrif ar hugain.
    • Byddwch yn ymarfer, yn astudio ac yn perfformio mewn lleoliad hyfryd a llawn ysbrydoliaeth sy’n ffinio â Pharc Bute, sef un o fannau gwyrdd mwyaf y ddinas. Mae gennym neuadd gerddoriaeth siambr gydag acwsteg hynod, cyntedd a man perfformio gwydrog, Theatr Richard Burton, yn ogystal â stiwdios a mannau rihyrsal o’r radd flaenaf.
    • Mae ein campws yng nghanol Caerdydd, Dinas Gerddoriaeth gyntaf y DU, a phrifddinas gartrefol a llewyrchus Cymru, sydd ond dwy awr ar y trên i ganol Llundain.
    • Cafodd Caerdydd ei henwi’n ddinas fwyaf cost-effeithiol yn y DU ar gyfer myfyrwyr, yn ôl Mynegai Byw Myfyrwyr NatWest 2022.

Cofrestrwch i Dderbyn Diweddariadau

I dderbyn rhagor o wybodaeth am astudio gyda ni, cofrestrwch isod.

Anfonir e-bost atoch yn gofyn i chi gadarnhau eich cyfeiriad. Gwiriwch eich ffolder sbam / sothach os nad yw’r e-bost yn cyrraedd o fewn ychydig funudau.

Cyrsiau

Diweddaraf o’r Blog

Mwy