“Un o’r cyrsiau hyfforddi actorion mwyaf trylwyr a heriol yn Ewrop.”
Simon Stephens, Dramodydd
-
Cwmni Richard Burton
Ar gyfer blwyddyn olaf eu hyfforddiant mae’r actorion yn ymuno â Chwmni Richard Burton, ynghyd â myfyrwyr o’r cyrsiau rheoli a chynllunio llwyfan. Gan weithio gyda chyfarwyddwr a goruchwylwyr cynhyrchu proffesiynol, mae’r cwmni’n cynhyrchu tua 15 sioe bob blwyddyn, yn amrywio o ddramâu clasurol i ddrama gyfoes.
-
Ysgrifennu Newydd
Mae gŵyl ysgrifennu newydd flynyddol y Coleg yn rhoi cyfle i actorion weithio’n agos gydag ysgrifenwyr a chyfarwyddwyr ifanc ar ddramâu a gomisiynir gan CBCDC mewn cydweithrediad â Gate Theatre, Royal Court, Paines Plough a Theatr Sherman. Bydd cynyrchiadau yn agor yn CBCDC cyn symud i Gate Theatre yn Llundain. Mae’r cyrsiau hefyd yn cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr archwilio eu gwaith eu hunain, datblygu gwaith gwreiddiol a chymryd rhan mewn dosbarthiadau meistr gyda rhai o ysgrifenwyr mwyaf cyffrous y DU.
-
Perfformiadau Stondin Actio
Mae stondinau actio blynyddol yng Nghaerdydd yn rhoi myfyrwyr blwyddyn olaf o flaen prif asiantau a chyfarwyddwyr castio. Yn 2016, cynhaliodd y Coleg ei Stondin Actio gyntaf yn Efrog Newydd a bydd yn dychwelyd yno yn 2019.
-
Dosbarthiadau Meistr
Mae Cyfres Dosbarthiadau Meistr y Coleg yn rhoi cyfleoedd i rwydweithio gyda gweithwyr proffesiynol blaenllaw a chael cyngor arbenigol ar bopeth, o dechneg clyweld i weithio gydag asiantau.
Cofrestrwch i Dderbyn Diweddariadau
I dderbyn rhagor o wybodaeth am astudio gyda ni, cofrestrwch isod.
Anfonir e-bost atoch yn gofyn i chi gadarnhau eich cyfeiriad. Gwiriwch eich ffolder sbam / sothach os nad yw’r e-bost yn cyrraedd o fewn ychydig funudau.