Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Astudiwch gerddoriaeth mewn conservatoire cerddoriaeth blaenllaw yn y DU | Gwnewch gais am gyrsiau Ôl-raddedig 2027 | Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru

Gwnewch gais am gwrs ôl-raddedig cerddoriaeth yng nghonservatoire cenedlaethol Cymru. Mae ein graddau MMus mewn perfformio, cyfansoddi ac arwain yn cyfuno hyfforddiant arbenigol, cyfleoedd perfformio a chysylltiadau â’r diwydiant i’ch helpu i ddatblygu fel artist a’ch paratoi ar gyfer gyrfa gynaliadwy ym maes cerddoriaeth.

Gwnewch gais nawr

Byddwch y cerddor rydych chi am fod


Astudiwch am MMus (gradd Meistr mewn Cerddoriaeth) yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a throchwch eich hun mewn profiad conservatoire dwys sydd wedi’i gynllunio ar gyfer eich datblygiad artistig. P’un a ydych yn arbenigo mewn perfformio, cyfansoddi neu arwain, mae ein graddau ôl-raddedig cerddoriaeth yn cyfuno hyfforddiant un-i-un, cyfleoedd rheolaidd i berfformio a chydweithio ag artistiaid a sefydliadau celfyddydol blaenllaw.

Datblygwch eich llais artistig, dyfnhewch eich ymarfer unigol a graddio gyda’r sgiliau, y profiad a’r hyder i ffynnu fel cerddor proffesiynol.

Pam dewis CBCDC?

Addasu eich MMus i’ch dyheadau
Datblygwch eich sgiliau arbenigol a’ch hunaniaeth artistig trwy raglen hyblyg wedi’i chynllunio o amgylch eich diddordebau, cryfderau a nodau ar gyfer gyrfa.

Dysgu gan gerddorion ac artistiaid sy’n ymarfer
Astudiwch gyda cherddorion, cyfansoddwyr, arweinwyr ac ymarferwyr proffesiynol sy’n dod â phrofiad helaeth o ddiwydiannau cerddoriaeth y DU a rhyngwladol i’ch hyfforddiant.

Adeiladu eich profiad perfformio
Cymerwch ran mewn cyfleoedd perfformio a chreadigol amrywiol, o gerddoriaeth unawdol a siambr i brosiectau cerddorfaol, opera a chydweithredol.

Cydweithio ar draws disgyblaethau
Gweithiwch ochr yn ochr â myfyrwyr ac ymarferwyr ar draws meysydd cerddoriaeth a drama, gan ddatblygu’r sgiliau creadigol a chydweithredol sydd eu hangen ar gyfer gyrfa bortffolio gynaliadwy.

Dysgu gan artistiaid blaenllaw
Cymerwch ran mewn dosbarthiadau meistr, gweithdai a phrosiectau gydag artistiaid gwadd a gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant, a chysylltu â cherddorion sy’n gweithio ar y lefelau uchaf yn y proffesiwn.

Adeiladu eich rhwydwaith proffesiynol
Datblygwch gysylltiadau gwerthfawr trwy bartneriaethau CBCDC â sefydliadau celfyddydol blaenllaw, gan gynnwys cyfleoedd i weithio ochr yn ochr â cherddorion o sefydliadau megis Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ac Opera Cenedlaethol Cymru.

Perfformio mewn cyfleusterau rhagorol
Datblygwch eich ymarfer mewn mannau arbenigol gan gynnwys Neuadd Dora Stoutzker, gyda chyfleoedd i berfformio o fewn y Coleg ac mewn lleoliadau allanol.

Yr hyn sydd angen i chi ei wybod am wneud cais am radd MMus yn CBCDC

Archwiliwch y cyrsiau ôl-raddedig cerddoriaeth

Beth ddywed ein myfyrwyr

‘Y Coleg oedd lle y des i o hyd i fy llais fel artist. Rhoddodd fy nghyfnod yno yr hyder i mi ymddiried ynof fy hun, i wrando ar fy llais mewnol, ac i wybod y bydd gen i’r arfau i ddelio â beth bynnag y dof ar eu traws. Dros y blynyddoedd rydw i wedi parhau i deimlo cysylltiad cryf â’r Coleg a’i ethos o gynhwysiant ac arloesedd.’
Tianyi LuMMus Arwain Cerddorfaol
‘Dewisais astudio’r cwrs MMus yn CBCDC oherwydd bod ei lwybr perfformio cerddorfaol yn rhoi cyfoeth o brofiadau cerddorfaol proffesiynol. Roedd y cwrs yn cynnig mentora gan arbenigwyr yn y maes, a rhoddodd hyfforddiant gwerthfawr a mewnwelediadau i’r diwydiant i mi.

Gydag arweiniad y tiwtoriaid hyn, llwyddais i ddatblygu fy sgiliau a’m gwybodaeth ymhellach, gan gael yr hyder a’r profiad sydd eu hangen ar gyfer gyrfa gerddorfaol lwyddiannus.’
Amy FletcherMMus Perfformio Cerddorfaol
‘Dewisais astudio yn y Coleg wedi i mi gael fy nenu gan hyblygrwydd y cwricwlwm, yn ogystal â diwylliant cefnogol a chreadigol y Coleg. Roedd ei leoliad yng Nghaerdydd, dinas werdd a chanolig o ran maint, yn fonws ychwanegol.’
Andrew NeslerMMus Perfformio Cerddoriaeth
‘Mae dau achlysur yn aros yn arbennig yn fy nghof. Y cyntaf oedd y profiad o eistedd yn adran corn BBC NOW yn chwarae Mahler 5, wedi fy rhyfeddu gan y sain pwerus yr oedd y chwaraewyr yn ei gynhyrchu, hyd yn oed yn ystod ymarferion. Yr ail oedd eistedd y tu ôl i Angus West, cyn Brif Gorn WNO, yn ystod y Gala Opera gyda Carlo Rizzi. Roedd gwrando ar ei chwarae syfrdanol yn agoriad llygad, wrth i mi sylweddoli fy mod yn rhan o’r gerddorfa, yn perfformio ochr yn ochr â cherddorion mor rhagorol.’
Nathan BarkerMMus Perfformio Cerddorfaol
‘Yr hyn rwy’n ei fwynhau am Gaerdydd a’r Coleg yw ei fod yn lle cynhwysol iawn i astudio, sydd wedi fy helpu i deimlo’n gyfforddus i fod yn agored am fy hunaniaeth. Rydw i mor falch o fod yn rhan o Goleg a dinas lle rwy’n teimlo bod amrywiaeth yn cael ei gofleidio, lle gallaf fod yn rhydd i fod yn fi fy hun go iawn, a lle mae fy ngalluoedd a’m talentau yn cael eu cydnabod a’u dathlu.’
Mica SmithMMus Perfformio Opera

Cofrestrwch i dderbyn rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau MMus

Cofrestru i gael ein newyddion diweddaraf

Bydd e-bost yn cael ei anfon yn gofyn i chi gadarnhau eich cyfeiriad. Edrychwch yn eich ffolder sbam / sothach os nad yw'r e-bost yn cyrraedd o fewn ychydig funudau

Mae’r Coleg yn cymryd diogelu pob gwybodaeth bersonol o ddifrif ac mae wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu hawliau a rhyddid pob unigolyn. Byddwn yn prosesu eich data yn unol â’n datganiad preifatrwydd, y gallwch ei ddarllen yn https://www.rwcmd.ac.uk/cy/privacy

(Gofynnol)

(Gofynnol)

(Gofynnol)

Blwyddyn mynediad:
Rhanbarth: