Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Sarah Alexander

Rôl y swydd: Aelod y Bwrdd

Fel Prif Weithredwr a Chyfarwyddwr Artistig y Gerddorfa Ieuenctid Genedlaethol, mae Sarah Alexander OBE wedi tyfu’r sefydliad o fod yn gweithio gyda 164 o bobl ifanc i un sy’n cyrraedd 10,000 o rai yn eu harddegau, gan agor mynediad i bobl ifanc o bob cefndir. Bellach caiff ei dathlu’n eang fel cerddorfa orau’r byd ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau. Treuliodd Sarah flynyddoedd lawer yng Nghymru yn arwain adran addysg Opera Cenedlaethol Cymru ac mae wedi ennill gwobrau mawreddog gan Gymdeithas Cerddorfeydd Prydain a’r Gymdeithas Ffilharmonig Frenhinol ymhlith eraill.

Proffiliau staff eraill